Chwiliwch am eich Tîm Plismona Bro lleol

Dewch o hyd i’ch Tîm Plismona Bro lleol a gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol drwy nodi cyfeiriad stryd neu god post isod:

Cyncoed

Mae Plismona yn y Gymdogaeth wrth wraidd ein dull o gadw De Cymru'n ddiogel. Mae ein PCSOs a'n swyddogion yn falch o fod yn rhan annatod o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Rydym am sicrhau bod ein rhaglen plismona yn y gymdogaeth mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, a'n nod yw bod y gorau yn y wlad am ddeall ac ymateb i anghenion a blaenoriaethau pob cymuned unigol. Mae eich tîm plismona yn y gymdogaeth lleol yn cynnwys swyddogion a PCSOs wedi'u lleoli yn eich ardal sy'n weladwy ac yn hygyrch.

Mae ymgysylltu â'n cymunedau yn rhan hanfodol o'n model plismona yn y gymdogaeth: cysylltu ag unigolion, sefydliadau, busnesau, ysgolion, gweithleoedd ac eraill; gweithio i ddeall eich pryderon a'ch blaenoriaethau, ymateb iddynt a mynd i'r afael â nhw; a rhoi mesurau ar waith i atal problemau rhag gwaethygu – neu ddigwydd yn y lle cyntaf.

Drwy gydweithio a chanolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar, atal a datrys problemau, gallwn ddod o hyd i atebion hirdymor i broblemau lleol.

Sylwch nad yw'r gwasanaeth hwn ar gyfer riportio troseddau neu ddigwyddiadau - i wneud adroddiad gwnewch hyn yma - Hafan | Heddlu De Cymru (de-cymru.police.uk) neu ffoniwch 999 mewn argyfwng.

Tîm plismona cymdogaeth Llanisien a Thredelerch / Llanishen & Rumney Neighbourhood Policing Team

Kate Godfrey (South Wales Police, PCSO, Llanishen NPT)

Kate Godfrey

SCCH

07977 570974

Daniel Holloway (South Wales Police, PCSO, Llanishen NPT)

Daniel Holloway

SCCH

07584 003979

Richard Irwin (South Wales Police, Police Constable, Llanishen NPT)

Richard Irwin

Cwnstabl yr Heddlu

07584 883550

Mark Williamson (South Wales Police, Sergeant, Llanishen NPT)

Mark Williamson

Rhingyll

07584 770430

Materion Blaenoriaeth Lleol

Blaenoriaeth Camau a gymerwyd

Diogelwch ar y Ffyrdd

Cyhoeddi 11/06/2026

Mae'r gweithredoedd a gymerwyd yn cael eu diweddaru bob tri mis.

Gweithredu 11/06/2026

Diogelwch ar y Ffyrdd

Cyhoeddi 10/03/2026

Mae Ymgyrch Atal wedi cael ei chynnal yn ardal Cyncoed gyda chymorth GanBwyll a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Bu’r timau yn gweithio gyda'i gilydd i fonitro cerbydau a stopio’r rhai oedd yn gyrru dros y terfyn cyflymder, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a chyflawni troseddau traffig eraill.

Cafodd 419 o geir eu monitro
Rhoddwyd cyngor ar oryrru i 52 o bobl
Rhoddwyd cyngor ar wisgo gwregys diogelwch i 4 unigolyn
Cafodd 1 person ddirwy am oryrru

Mae ymgysylltu yn chwarae rhan hanfodol mewn diogelwch ar y ffyrdd. Cafodd y gyrwyr dan sylw ddewis - mynd i sesiwn addysgol gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar unwaith, neu dderbyn cosb benodedig. Dirwy o £100 i'w thalu yn y fan a'r lle yw'r gosb ar hyn o bryd ar gyfer trosedd gwregys diogelwch, neu £100 a 3 phwynt ar eich trwydded am oryrru.

Gweithredu 10/06/2026

Troseddau'n ymwneud â cherbydau

Cyhoeddi 10/12/2025

Dim gweithredu

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Parc y Rhath

Cyhoeddi 10/12/2025

Dim gweithredu

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Campws Cyncoed

Cyhoeddi 01/09/2025

Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd ac wedi gweithio â Phrifysgol Met Caerdydd i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cafodd delweddau o gamerâu CCTV eu rhannu ag ysgolion lleol, a oedd yn allweddol wrth adnabod nifer o bobl ifanc, gyda rhai ohonynt yn achosi problemau ar y safle dro ar ôl tro. I'r rheini a gafodd eu hadnabod, mae atgyfeiriadau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael eu cyflwyno a llythyrau rhybudd wedi cael eu dosbarthu.

Mae'r Brifysgol hefyd wedi cwblhau rhaglen i wella mesurau diogelwch.

Yn ystod gwyliau haf ysgolion cynhaliodd y Brifysgol raglen Cynhwysiant mewn Chwaraeon i Bobl Ifanc; aeth y Brifysgol at ysgolion yn y gymuned leol i gynnig y rhaglen hon i'w myfyrwyr, ar yr amod bod y myfyrwyr yn parchu'r safle a'r staff; mae hyn wedi helpu i feithrin a gwella cydberthnasau â phobl ifanc.

Ar y cyfan, mae'r dull cydweithredol hwn wedi bod yn llwyddiannus, gyda gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y safle.

Gweithredu 10/12/2025

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Parc y Rhath

Cyhoeddi 01/09/2025

Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd.

Rydym wedi cynnal ymarfer 'stopio a chwilio' ar nifer o bobl, ymdriniwyd â rhai ohonynt am fod â chanabis yn eu meddiant. Mae nifer o bobl eraill wedi cael eu hadnabod drwy CCTV ac wedi derbyn llythyrau rhybudd yn ddiweddarach drwy'r broses ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Roedd adroddiadau am berson digartref yn achosi problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal y parc, a chafodd ei adnabod ac ymdriniwyd ag ef yn ddiweddarach drwy'r broses ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cafodd y person hwn hefyd ei atgyfeirio i gael cymorth.

Gweithredu 10/12/2025

Troseddau'n ymwneud â cherbydau

Cyhoeddi 01/09/2025

Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd a chefnogi digwyddiadau cymunedol i hybu diogelwch a rhoi gwybod am broblemau.

Rydym wedi cynnal trafodaeth atal troseddau a sesiwn holi ac ateb am nifer o fathau o droseddau, gan gynnwys troseddau'n ymwneud â cherbydau yn Eglwys Park End, a chafwyd presenoldeb ac ymateb da yn y digwyddiad hwn.

Mae'r duedd gyffredinol o droseddau'n ymwneud â cherbydau ar draws y ward wedi gostwng.

Gweithredu 10/12/2025

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Campws Cyncoed

Cyhoeddi 17/06/2025

Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd ac wedi gweithio gyda Phrifysgol Met Caerdydd i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gweithredu 01/09/2025

Troseddau'n ymwneud â cherbydau

Cyhoeddi 17/06/2025

Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd ac wedi cefnogi digwyddiadau cymunedol er mwyn hybu diogelwch ac annog pobl i roi gwybod am faterion.

Gweithredu 01/09/2025

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Parc y Rhath

Cyhoeddi 17/06/2025

Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd.

Gweithredu 10/12/2025

Diweddariadau De Cymru Diweddaraf

Message type icon

Panel Craffu Cymunedol: Iau 27 Awst 18:30

AnnwylResident , Angen aelodau'r Panel Craffu Dyddiad: Cyfeiriad: Amser: Beth yw Panel Craffu? Mae Paneli Craffu yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd arsylwi, adolygu a herio gweithgaredd plismona go iawn mewn amgylchedd diogel a str...

Heddlu De Cymru
24/08/2026 06:58

Gweld Diweddariad
Message type icon

Rydym yn recriwtio!

Ydych chi'n poeni am wneud gwahaniaeth yn y swydd rydych chi'n ei gwneud? Yna gallai dod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH) fod yn addas i chi. Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i gyd yn ymwneud â darparu'r cyswllt h...

Heddlu De Cymru
17/08/2026 16:16

Gweld Diweddariad
Message type icon

Annwyl Drigolion, Bydd eich Tîm Heddlu Cymdogaeth lleol yn Heath Park ar 14eg Awst 2026 rhwng 1yp-4yp. Llawer i’w weld a’i wneud ar y diwrnod! Dewch draw a chyfarfu â ni. Gallwn drafod unrhyw faterion lleol, rhoi gwybodaeth am atal troseddau, a dweud...

Heddlu De Cymru
12/08/2026 16:48

Gweld Diweddariad
Message type icon

#WythnosYmwybyddiaethYmddygiadGwrthgymdeithasol | Wyt ti'n gwybod pwy i gysylltu â?

#WythnosYmwybyddiaethYmddygiadGwrthgymdeithasol | Wyt ti'n gwybod pwy i gysylltu â? Diweddarwch eich gwybodaeth fel y byddwch yn gwybod os yw’n yr heddlu neu bartneriaid y mae angen i chi eu ffonio. Defnydd gwrthgymdeithasol neu amhriodol o gerby...

Heddlu De Cymru
03/07/2026 16:00

Gweld Diweddariad
Message type icon

Diweddariad ar Ddwyn Siopau / Lladrad Manwerthu Blaenoriaethau Lleol

AnnwylResident , Diolch i chi am gymryd rhan yn yr arolwg blaenoriaeth lleol yn ddiweddar, mae eich adborth parhaus am faterion lleol sy'n peri pryder yn hanfodol er mwyn ein galluogi i dargedu adnoddau'n effeithiol. Er na wnaethoch chi ...

Heddlu De Cymru
30/06/2026 16:54

Gweld Diweddariad
Message type icon

Dywedwch wrthym beth yw eich barn

Shwmae Resident Rydym yn awyddus i glywed eich sylwadau ynglŷn â phlismona lleol er mwyn ein helpu i lunio a gwella'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i'n cymunedau. Beth ydyn ni'n ei wneud yn dda? Beth sydd angen i ni ei newid?  Rydym wedi y...

Heddlu De Cymru
02/06/2026 16:57

Gweld Diweddariad
Message type icon

Panel Craffu Cymunedol: Mawrth 19 Mai 17:45

AnnwylResident , Angen aelodau'r Panel Craffu Dyddiad: Cyfeiriad: Amser: Beth yw Panel Craffu? Mae Paneli Craffu yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd arsylwi, adolygu a herio gweithgaredd plismona go iawn mewn amgylchedd diogel a str...

Heddlu De Cymru
15/05/2026 14:18

Gweld Diweddariad
Message type icon

Neges Materion Diogelwch Ffyrdd Blaenoriaethau Lleol

AnnwylResident , Roeddwn i eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â Materion Diogelwch Ffyrdd, y mae pobl o gwmpas eich ardal wedi'u hamlygu fel mater o bryder yn yr arolwg blaenoriaeth. Mae Ymgyrch Atal wedi digwydd yn ardal ...

Heddlu De Cymru
23/04/2026 17:52

Gweld Diweddariad

Cliciwch yma i weld mwy o ddiweddariadau

Digwyddiadau Lleol

...
Community Access Point (CAP) at Park End Church
...
Community Access Point (CAP) at Park End Church
...
Community Access Point (CAP) at Park End Church
...
Community Access Point (CAP) at Park End Church