|
||
|
|
||
|
||
|
Ymdriniwr Galwadau yr Heddlu 999/101 - Swyddog Risg a Datrys Digwyddiadau |
||
|
Shwmae,
Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn ymuno â'n Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, lle mae ein gweithredwyr yn ymdrin â galwadau brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys gan y cyhoedd, ac yn trosglwyddo'r galwadau hyn i swyddogion yr heddlu, byddwn yn croesawu ceisiadau o 15 Rhagfyr 2025 a bydd yr hysbyseb yn parhau ar agor tan 6 Ionawr 2026.
Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n gweithredu bob awr o'r dydd, wrth wraidd ein gwaith a'n gweithrediadau.
Mae'n ymdrin â phob galwad brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys gan y cyhoedd, felly mae'r gwaith yn werth chweil ac yn hanfodol er mwyn diogelu cymunedau De Cymru. Mae'r Ganolfan yn ateb dros 2000 o alwadau y dydd ac nid yw dwy alwad byth yr un fath, gan gynnwys troseddau difrifol, marwolaethau sydyn, gwrthdrawiadau traffig ac unigolion coll sy'n agored i niwed.
Mae Heddlu De Cymru yn ceisio recriwtio nifer o Swyddogion Risg a Datrys Digwyddiadau amser llawn o bob rhan o'r gymuned, a byddem yn annog ceisiadau gan grwpiau lleiafrifol amrywiol, i weithio yn ein Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus arloesol ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y swydd amser llawn hon yn gyfle cyffrous i chi weithio yn ein Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus dynamig. Byddwn yn meithrin eich sgiliau a'ch galluoedd ac yn eich addysgu i ymateb i alwadau brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys yn y ffordd orau bosibl a darparu gwasanaeth o ansawdd da i gymunedau De Cymru.
Mae hon yn swydd heriol lle mae angen unigolion gwydn sy'n gallu gweithio dan bwysau, blaenoriaethu llwythi gwaith a bod yn flaengar, gan reoli galwadau sensitif a all beri gofid. Rhaid i unigolion ddeall pwysigrwydd darparu gwasanaeth o ansawdd da a phrydlon i gwsmeriaid. Yn gyfnewid am hyn, bydd gennych swydd sy'n cynnig llawer o foddhad lle byddwch yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu cymunedau De Cymru.
Ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/gyrfaoedd/gyrfaoedd/ i gael syniad o'r gwaith a wneir gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus a'r broses recriwtio.
Bydd yn ofynnol i chi weithio shifftiau 24/7, gan gynnwys ar benwythnosau.
Dilynwch y ddolen isod i'n gwefan i wneud cais: PSC 999/101 Call Handler - Incident Risk and Resolution Officer December 2025 -
Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd cael gweithlu amrywiol er mwyn helpu i ehangu ein gallu a'n capasiti i gyflawni perfformiad o ansawdd uchel ar gyfer ein cymunedau amrywiol. I gyrraedd uchelgais yr Heddlu o fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, mae ein Tîm Gweithredu Cadarnhaol ar gael i ateb unrhyw ymholiadau ac i roi cymorth i unrhyw ymgeiswyr o gymunedau ethnig lleiafrifol. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, neu os hoffech drafod Gweithredu Cadarnhaol, anfonwch e-bost at PositiveAction@south-wales.police.uk . Gall y tîm rhoi cymorth drwy gydol y broses ymgeisio gan gynnwys cymorth un i un a sesiynau uwchsgilio. Os hoffech gael y cymorth hwn, dewiswch ie wrth wneud cais am y swydd wag, pan fyddwch yn cael cwestiwn am gael cymorth gweithredu cadarnhaol. Bydd y tîm yn cysylltu â chi i siarad yn fanwl am y cymorth y gellir ei gynnig.
| ||
Reply to this message | ||
|
|






