Amdanom ni
Yn Heddlu De Cymru, mae ein PCSOs a'n Swyddogion yn falch o fod wrth galon yr ardal leol y maent yn ei gwasanaethu.
Rydym am sicrhau bod ein plismona yn y gymdogaeth mor effeithlon ac effeithiol ag y gall fod, a'n nod yw bod y gorau yn y wlad o ran deall ac ymateb i anghenion a blaenoriaethau pob cymuned unigol.
Mae ymgysylltu â'n cymunedau yn rhan greiddiol o'n model plismona yn y gymdogaeth. Ei bwrpas yw cysylltu ag unigolion, sefydliadau, busnesau, ysgolion, gweithleoedd ac eraill; gweithio i fynd i'r afael â'ch blaenoriaethau chi; a rhoi mesurau ar waith i atal materion rhag datblygu – neu rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Wrth i ni barhau i wella ein gwasanaeth i chi, rydym wedi cyflwyno De Cymru yn Gwrando – gwasanaeth negeseua am ddim gan Heddlu De Cymru, sy'n eich galluogi i roi gwybod i'r tîm lleol beth sy'n eich poeni, beth rydych am ei weld yn newid, ac i awgrymu ffyrdd y gallwn weithio gyda chi i wneud eich cymuned yn well. Bydd hefyd yn eich galluogi i ofyn am wybodaeth, boed hynny am gyngor ar atal troseddau, y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau parhaus, neu ddysgu mwy am yr hyn y mae eich tîm plismona lleol yn ei wneud - chi fydd yn dewis.
Mae De Cymru yn Gwrando yn eich gwahodd i gofrestru a rhoi gwybod i ni am yr hyn sy'n peri pryder i chi yn eich cymuned leol. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau ymgysylltu lleol, yn rhannu cyngor ar atal troseddau, ac yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau plismona sylweddol yn eich ardal o bryd i'w gilydd.
Mae De Cymru yn Gwrando yn eich galluogi i anfon negeseuon yn uniongyrchol at eich PCSOs lleol a'ch tîm plismona yn y gymdogaeth. Byddwn yn gwrando ar yr hyn sydd gennych i'w ddweud ac yna byddwn yn rhannu'r camau gweithredu rydym wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'ch pryderon â chi. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Cadw De Cymru'n ddiogel – gyda'n gilydd.