|
||
|
|
||
|
||
|
YmunoÂNi fel Swyddog Ymholiadau Gorsaf |
||
|
Shwmae
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru yn ddiogel. Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd wneud cais i ymuno â'n teulu plismona. Rydym yn chwilio am rywun i #YmunoÂNi fel Swyddog Ymholiadau Gorsaf. Ai chi yw'r un rydym yn chwilio amdano? Y tîm/Adran y byddwch yn ymuno ag ef/hi: Bydd gweithio fel Swyddog Ymholiadau Gorsaf yn gyfle cyffrous i chi weithio gyda'n timau desg flaen dynamig, gan ddarparu rhyngwyneb hanfodol rhwng ein cymunedau a Heddlu De Cymru. Y rôl a'ch prif gyfrifoldebau: Y brif swyddogaeth yw gwasanaethu aelodau o'n cymunedau, gan ddarparu datrysiad pwynt cyswllt cyntaf wrth y ddesg flaen, naill ai yn bersonol neu dros y ffôn. Mae'r rôl yn seiliedig ar gyflwyno gwasanaeth o safon uchel. Yn seiliedig ar hyfforddiant proffesiynol, bydd yn rhoi'r adnoddau i ddeiliad y swydd er mwyn diwallu anghenion a chyrraedd disgwyliadau ein cymunedau. Pa sgiliau a phrofiad y mae angen i chi eu cynnig i'r rôl: Mae hon yn swydd heriol lle mae angen unigolion gwydn sy'n gallu gweithio dan bwysau, blaenoriaethu llwythi gwaith a bod yn flaengar, gan reoli sefyllfaoedd sensitif a all beri gofid. Rhaid i unigolion ddeall pwysigrwydd darparu gwasanaeth o ansawdd da a phrydlon i gwsmeriaid. Yn gyfnewid am hyn, bydd gennych swydd sy'n cynnig llawer o foddhad lle byddwch yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu cymunedau De Cymru Mae rolau rhan amser a llawn amser ar gael, gweler yr hysbyseb swydd i gael rhagor o wybodaeth am oriau a lleoliadau. Os hoffech wneud cais am rôl y Swyddog Ymholiadau Gorsaf, cliciwch y ddolen ganlynol: Swyddog Ymholiadau Gorsaf - Swyddi Heddlu Cymru Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd cael gweithlu amrywiol er mwyn helpu i ehangu ein gallu a'n capasiti i gyflawni perfformiad o ansawdd uchel ar gyfer ein cymunedau amrywiol. I gyrraedd uchelgais yr Heddlu o fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, mae ein Tîm Gweithredu Cadarnhaol ar gael i ateb unrhyw ymholiadau ac i roi cymorth i unrhyw ymgeiswyr o gymunedau ethnig lleiafrifol. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, neu os hoffech drafod Gweithredu Cadarnhaol, anfonwch e-bost at PositiveAction@south-wales.police.uk . Gall y tîm gynnig cymorth 1-21, cymorth ar gyfer y cyfweliad, sesiynau uwchsgilio a chymorth â'r ffurflen gais. Os hoffech gael y cymorth hwn, dewiswch ie wrth wneud cais am y swydd wag, pan fyddwch yn cael cwestiwn am gael cymorth gweithredu cadarnhaol. Bydd y tîm yn cysylltu â chi i siarad yn fanwl am y cymorth y gellir ei gynnig. | ||
Reply to this message | ||
|
|






