Chwiliwch am eich Tîm Plismona Bro lleol
Dewch o hyd i’ch Tîm Plismona Bro lleol a gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol drwy nodi cyfeiriad stryd neu god post isod:
Y Ddraenen Wen a Rhydfelen Isaf - Hawthorn and Lower Rhydfelen
Mae Plismona yn y Gymdogaeth wrth wraidd ein dull o gadw De Cymru'n ddiogel. Mae ein PCSOs a'n swyddogion yn falch o fod yn rhan annatod o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Rydym am sicrhau bod ein rhaglen plismona yn y gymdogaeth mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, a'n nod yw bod y gorau yn y wlad am ddeall ac ymateb i anghenion a blaenoriaethau pob cymuned unigol. Mae eich tîm plismona yn y gymdogaeth lleol yn cynnwys swyddogion a PCSOs wedi'u lleoli yn eich ardal sy'n weladwy ac yn hygyrch.
Mae ymgysylltu â'n cymunedau yn rhan hanfodol o'n model plismona yn y gymdogaeth: cysylltu ag unigolion, sefydliadau, busnesau, ysgolion, gweithleoedd ac eraill; gweithio i ddeall eich pryderon a'ch blaenoriaethau, ymateb iddynt a mynd i'r afael â nhw; a rhoi mesurau ar waith i atal problemau rhag gwaethygu – neu ddigwydd yn y lle cyntaf.
Drwy gydweithio a chanolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar, atal a datrys problemau, gallwn ddod o hyd i atebion hirdymor i broblemau lleol.
Sylwch nad yw'r gwasanaeth hwn ar gyfer riportio troseddau neu ddigwyddiadau - i wneud adroddiad gwnewch hyn yma - Hafan | Heddlu De Cymru (de-cymru.police.uk) neu ffoniwch 999 mewn argyfwng.
Tîm plismona cymdogaeth Dyffryn Taf / Taff Neighbourhood Policing Team

James Arthur
SCCH
07816187900

Samantha Evans
SCCH
07970444697

Morgan Noble
Cwnstabl yr Heddlu
07970164675
Materion Blaenoriaeth Lleol
| Blaenoriaeth | Camau a gymerwyd |
|---|---|
|
Dwyn o siopau a Throseddau manwerthu - Parc Manwerthu Midway, Dunelm, Tesco Extra. Cyhoeddi 12/09/2025 |
Rydym wedi casglu cudd-wybodaeth i fynd i'r afael â phryderon cyson y gymuned. Rydym wedi cymryd camau cadarnhaol yn erbyn siopladron sy'n troseddu dro ar ôl tro. Rydym wedi ymgysylltu â busnesau ac wedi darparu cyngor atal troseddau. Rydym wedi cwblhau patrolau gwelededd uchel ac wedi cynnal stondinau atal troseddau a digwyddiadau Paned gyda Phlismon er mwyn helpu i atal dwyn o siopau yn yr ardal. Gweithredu 26/11/2025 |
|
Pryderon parcio - Ffordd Ynyscorrwg, Cilgant y Ddraenen wen a Ffordd Ynyslyn Cyhoeddi 03/09/2025 |
Rydym wedi ymgysylltu â phreswylwyr drwy gymorthfeydd a chyfarfodydd. Rydym wedi cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ar ddiogelwch ar y ffyrdd - Ysgol Afon Wen. Rydym wedi gweithio gyda'r cyngor o safbwynt gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd a chynyddu ymweliadau Swyddog Gorfodi Parcio i'r ardal. Mae SCCH Evans, gyda chymorth Gwasanaethau Hamdden Rhondda Cynon Taf, wedi sicrhau maes parcio ychwanegol i'w ddefnyddio gan rieni/gwarchodwyr. Mae'r gwasanaeth yn cael ei hyrwyddo'n fewnol yn Ysgol Afon Wen, ynghyd ag ymgyrch delwedd parcio a theithio i'w harddangos yn eu Cerbydau. Gweithredu 27/11/2025 |
|
Beiciau modur oddi ar y ffordd a defnydd anghyfreithlon o gerbydau. Gyrru beiciau/sgwteri yn beryglus, niwsans sŵn. Cyhoeddi 03/09/2025 |
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd. Rydym wedi cyhoeddi hysbysiadau Adran 59 a rhybuddion atafaelu ar gyfer cerbydau. Rydym wedi atafaelu cerbydau anghyfreithlon ac wedi cymryd camau gorfodi. Rydym wedi ymgysylltu â phreswylwyr drwy gymorthfeydd a chyfarfodydd. Gweithredu 20/11/2025 |
Diweddariadau De Cymru Diweddaraf
Neges atal troseddau
Neges atal troseddauShwmae Resident Mae pecyn offer atal trosedd am ddim ar gyfer manwerthwyr wedi'i gynllunio ar gais y Swyddfa Gartref, drwy gydweithrediad rhwng Canolfan Trosedd Busnes Genedlaethol a Heddlu CPI Secured by Design. Nod y pecyn o...
Paned gyda chopr / Paned gyda'ch plismon
Paned gyda chopr NEGES DWYIEITHOG / NEGES DWYIEITHOG HeloResident Bydd eich tîm plismona cymdogaeth lleol yn Dunelm, Pontypridd ar 18/11/2025 rhwng 11:30 a 13:00. Dewch draw i gwrdd â ni. Gallwn drafod unrhyw faterion lleol, darparu gwybod...
Cyflwyniad PCSO
Shwmae Fy enw i yw Stewart a fi yw Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Taffswell. Roeddwn eisiau cymryd y cyfle hwn i gyflwyno fy hun, gan mai fi yw Swyddog Cymorth Cymunedol lleol yr Heddlu ar gyfer yr ardal rydych yn byw ynddi. Rwy'n edrych ...
Cyfarfod PACT/NHW: Dydd Mercher 12 Tachwedd 18:00
Annwyl, Rydym yn annog y cyhoedd i ddweud eu dweud, yng nghyfarfod PACT yn Eglwys Bedyddwyr Bethel, Hawthorn, Pontypridd, CF37 5LH ar 12/11/2025 am 18:00. Mae'r cyfarfod hwn yn rhoi'r cyfle i chi godi unrhyw bryderon ac i ddarganfod beth r...
Paned gyda chopr Eglwys Sant Luc, Y Ddraenen Wen, Rhydyfelin : Maw 11 Tach 11:20
AnnwylResident , Bydd eich Tîm Plismona Cymdogaeth lleol yn eglwys Sant Luc, Hawthorn, Pontypridd ar 11/11/2025 rhwng 11:20. Dewch draw i gwrdd â ni. Gallwn drafod unrhyw faterion lleol, darparu gwybodaeth am atal troseddau, a dweud wrthych am...
Neges atal troseddau
Neges Ddwyieithog / Bilingual Message. Neges atal troseddu Helo Sylwch ein bod wedi nodi cynnydd mewn ymyrraeth cerbydau a geisiwyd yn ardal Rhydyfelin . Cyfeiriwch at ein gwefan am gyngor ar atal troseddau: Cyngor ar atal troseddau | Heddlu De Cy...
Ymgyrch Bang
Efallai eu bod yn edrych yn anhygoel, ond cofiwch y gall tân gwyllt fod yn beryglus ac #NidYwnHwyliBawb. Gall yr adeg hon o'r flwyddyn achosi mwy o orbryder ac ofn ymysg aelodau o'r gymdeithas sy'n fwy agored i niwed, yn ogystal ag anifeiliaid anwes...
Ymgyrch Bang
Calan Gaeaf Hapus! Gobeithio y cewch chi noson ddiogel a llawn mwynhad, ond cofiwch: Nid yw Calan Gaeaf yn hwyl i bawb, byddwch yn ystyriol o'r cartrefi y byddwch yn ymweld â nhw Arhoswch mewn grŵp Byddwch yn ofalus wrth groesi'r ffyrdd Gallwc...
Cliciwch yma i weld mwy o ddiweddariadau


