Anti Social Behaviour
|
||
|
|
||
|
||
|
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol |
||
|
Mae swyddogion wedi cael pwerau ychwanegol i gyfarwyddo pobl i adael Sgwâr y Brenin, Y Barri, yn dilyn digwyddiadau pellach o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymladd, tanau a difrod troseddol. Mae'r gorchymyn, a roddir o dan Adran 34 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, mewn grym o heddiw (dydd Iau 5 Tachwedd) tan ddydd Sadwrn 7 Tachwedd. Mae'r gorchymyn yn galluogi swyddogion i gyfarwyddo unigolion neu grwpiau i adael yr ardal am 48 awr os yw eu hymddygiad wedi neu'n debygol o gyfrannu at anhrefn neu achosi aflonyddu, braw neu ofid i aelodau'r cyhoedd. Bydd y rhai sydd o dan 16 oed ac sy'n ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth hon yn cael eu cludo adref neu i le diogel. Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i siarad â'u pobl ifanc ynglŷn â pheidio â chymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gwiriwch hefyd gyda phwy maen nhw'n cymdeithasu, beth maen nhw'n ei wneud a ble maen nhw. Mae patrolau cyfeiriedig gan y Tîm Plismona Cymdogaeth hefyd yn parhau yn Sgwâr y Brenin ac rydym yn gofyn i'r cyhoedd barhau i riportio digwyddiadau a darparu gwybodaeth. Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon ynghylch y mater hwn gysylltu â Heddlu De Cymru. Cysylltwch â Heddlu De Cymru naill ai drwy 101 neu Crime Stoppers ar 0800 555 111. Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng | ||
Reply to this message | ||
|
|






