Warrants connected to illegal bike use see 11 arrested across South Wales Police
|
||
|
|
||
|
||
|
Arestio 11 o bobl yn dilyn gwarantau sy'n gysylltiedig â defnyddio beiciau'n anghyfreithlon ledled ardal Heddlu De Cymru |
||
|
Shwmae {FIRST_NAME}
Gweithredodd swyddogion o Heddlu De Cymru gyfres o warantau yn dilyn adroddiadau bod pobl yn defnyddio beiciau mewn ffordd anghyfreithlon.
Mae'r gwarantau'n rhan o Ymgyrch Grebe sy'n canolbwyntio ar feiciau sy'n cael eu gyrru'n anghyfreithlon - gan gynnwys beiciau trydan, beiciau modur a beiciau oddi ar y ffyrdd.
Gweithredwyd gwarantau ar draws Caerdydd, Pontypridd, Merthyr Tudful ac Abertawe. Arweiniodd y gweithgarwch hwn at atafaelu beiciau, eu hanfon i'w dinistrio ac arestio unigolion am droseddau cyffuriau cysylltiedig.
Dyma rai o'r canlyniadau:
Yn dilyn pryderon gan y gymuned, mae'r heddlu wedi cynyddu ei ymdrechion i fynd i'r afael â phobl sy'n defnyddio beiciau mewn ffordd anghyfreithlon. Rydym yn gwybod y gellir cysylltu’r ymddygiad hwn yn aml â gweithgareddau troseddol mwy difrifol, gan gynnwys lladrad, achosion o gam-fanteisio a throseddau cyffuriau, ac rydym wedi ymroi i fynd i’r afael â’r problemau hyn.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Tom Williams, sy'n arwain yr ymgyrch: "Rydym wedi gwrando ar bryderon y gymuned, a dyma'r cyntaf ymhlith nifer o warantau fydd yn cael eu gweithredu ledled ardal yr heddlu i fynd i'r afael â'r mater. “Y mis diwethaf, gwnaethom lansio'r ymgyrch 'Wedi sylwi. Wedi riportio. Wedi’i sortio’ a gofyn i'r cyhoedd roi gwybod i ni am unrhyw bryderon sydd ganddynt, er mwyn ein helpu i ymdrin â’r broblem. O ganlyniad i'r wybodaeth a rannwyd â ni, llwyddwyd i arestio unigolion ac atafaelu beiciau heddiw. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i riportio achosion fel bod modd i ni weithredu.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Emma Fox: "Rydym yn defnyddio adnoddau arbenigol gan gynnwys timau drôn, ein tîm Sur-Ron newydd, a swyddogion mewn dillad plaen i adnabod y troseddwyr hyn a'u dwyn i gyfrif.
“Fy neges i'r sawl sy'n gyrru beiciau’n anghyfreithlon yw: Byddwn yn eich dal chi.”
Gall aelodau o'r cyhoedd roi gwybod am bryderon sy’n ymwneud â’r defnydd anghyfreithlon o feiciau drwy ddilyn y ddolen hon.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







