You Said, We Did - Road Safety Operation
|
||
|
|
||
|
||
|
Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni - Ymgyrch Diogelwch Ffyrdd |
||
|
Heno, cynhaliodd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu Lauren Edwards, Garry Saltmarsh a David Jones o Dîm Plismona Cymdogaeth Taf #1 weithrediadau diogelwch ffyrdd yn hwyr y nos/yn ystod y nos gan ddefnyddio dyfais cwmpasu cyflymder i ganfod gyrwyr yn goryrru gyda'r bwriad o gynnal gweithgareddau addysgol ac atgyfeirio ar gyfer gweithgareddau gorfodi lle bo'n berthnasol. Digwyddodd hyn mewn ardaloedd o fewn sector plismona Taf, gyda sylw arbennig yn cael ei roi i ardaloedd a amlygwyd gennych chi o fewn y gymuned leol fel rhai sy'n arbennig o berthnasol megis Ffordd Brynna, Brynna a'r Brif Ffordd, Pentre'r Eglwys-Tonteg. Mae'r gweithrediadau hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch pob defnyddiwr ffordd a cherddwr ac maent yn darparu presenoldeb gwerthfawr, amlwg a thawelwch meddwl i'n cymunedau. Ni fydd goryrru a defnydd gwrthgymdeithasol o gerbydau yn cael eu goddef a bydd ein tîm a'n cydweithwyr yn mynd i'r afael â'r ymddygiad hwn yn gadarn er mwyn cadw De Cymru'n ddiogel. Byddwn yn mynd ar drywydd troseddwyr sy'n peryglu aelodau'r cyhoedd a'ch cymunedau yn ddi-baid.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







