How we’re tackling the illegal use of bikes
|
||
|
|
||
|
||
|
Sut rydym yn mynd i'r afael â beiciau sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon |
||
|
Shwmae {FIRST_NAME}
Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn ne Cymru yn pryderu am feiciau – gan gynnwys beiciau modur trydanol a beiciau oddi ar y ffordd – sy'n cael eu gyrru'n anghyfreithlon. Fel rhan o Ymgyrch Grebe, rydym yn cynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau hyn a sicrhau bod ein strydoedd a'n ffyrdd yn ddiogelach i bawb.
Riportio beiciau anghyfreithlonMae arnom angen gwybodaeth am feiciau sy'n cael eu gyrru mewn modd anghyfreithlon, am feiciau nad ydynt yn gyfreithlon ar gyfer y ffordd, ac am feiciau sy'n gysylltiedig â throseddau fel gwerthu cyffuriau. Mae reidio beiciau yn anghyfreithlon yn rhoi'r cyhoedd a'r beicwyr eu hunain mewn perygl, gellir eu defnyddio i gyflawni trosedd, gall achosi difrod troseddol, a gellir tybio bod hyn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Pa fath o wybodaeth sy'n ddefnyddiol? Helpwch i gadw'ch cymuned yn ddiogel a dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wybod am feiciau sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon:
Oes gennych chi wybodaeth am weithgarwch beiciau anghyfreithlon? Dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wybod
Pa feiciau trydan sy'n gyfreithlon?Dim ond beiciau sy'n gyson â'r diffiniad o feic pedal a gynorthwyir yn drydanol (EAPC) y gellir eu reidio a'u trin yr un fath â beic pedal confensiynol, ar yr amod bod y defnyddiwr yn 14 oed neu hŷn. Mae defnydd confensiynol yn cynnwys reidio ar y ffyrdd a reidio ar lwybrau beicio. Os nad yw eich beic yn EAPC, ystyrir ei fod yn feic modur neu'n foped. Mae beiciau modur a mopeds yn gofyn am y canlynol:
Beiciau 'Twist and Go'Os oes gennych feic a gynorthwyir yn drydanol heb ddefnyddio'r pedalau, a elwir fel arfer yn 'Twist and Go', dylech sicrhau bod eich beic yn bodloni gofynion Rheoliadau EAPC ac wedi cael "cymeradwyaeth math" wrth gael ei weithgynhyrchu. Os nad ydyw, ac nid ydych wedi ceisio Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl Beic Modur (MSVA), ni fydd y beic yng nghategori EAPC ac fe fydd yn anghyfreithlon ei ddefnyddio ar y ffordd fawr.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







