O ganlyniad i batrolau heddlu rhagweithiol, atafaelwyd beic modur bach yn ddiweddar o gyfeiriad ym Mracla, Pen-y-bont ar Ogwr. Dim ond diolch i wybodaeth a ddarparwyd gan aelodau o'r gymuned leol y bu'r atafaeliad hwn yn bosibl. Byddem yn annog rhieni a gwarcheidwaid i fod yn ofalus wrth brynu cerbydau modur i blant ac i ymgyfarwyddo â'r ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch eu defnydd. Os oes gennych unrhyw bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal, rhowch wybod amdanynt i'r heddlu. Mae eich gwybodaeth yn ein helpu i gymryd camau cadarnhaol i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

|