Suspicious males attending farmland - Pentyrch
|
||
|
|
||
|
||
|
Dynion amheus yn mynychu tir fferm - Pentyrch |
||
|
Prynhawn da, Rydym yn gofyn i drigolion, yn enwedig ffermwyr a thirfeddianwyr, sydd â cherbydau/offer ar y safle fod yn wyliadwrus ac adrodd am unrhyw weithgarwch amheus i 101 neu 999 mewn argyfwng. Mae hyn yn dilyn adroddiad heddiw am dri dyn mewn fan Ford Transit arian yn mynd i mewn i fferm ym Mhentyrch a oedd i bob golwg yn gwirio cerbydau a da byw. Pan gawsant eu herio gan ffermwr cyfagos, ni allent roi esgus rhesymol ac maent wedi gadael yr ardal. Gall lleoliadau gwledig fel y rhain fod yn agored i droseddu, fel lladradau offer/cyfarpar, lladradau tanwydd neu fetel sgrap, potsio a gweithgareddau troseddol gwledig eraill. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw weithgarwch amheus yn cael ei riportio. Am wybodaeth ar gyngor Atal Troseddau Gwledig, ewch i'n gwefan Atal troseddau gwledig | Heddlu De Cymru . Cofion cynnes Tîm Plismona Cymdogaeth Fairwater
| ||
Reply to this message | ||
|
|







