|
O 26 Mehefin 2026 ymlaen, o dan Ddeddf Troseddau a Phlismona 2026, gall yr heddlu atafaelu ar unwaith gerbyd sy'n cael ei yrru mewn modd gwrthgymdeithasol heb fod angen rhoi rhybudd ymlaen llaw. Mae hyn yn diweddaru Adran 59 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002 i alluogi gweithredu'n gynt yn erbyn gyrru sy'n achosi niwsans.
Mae hyn yn golygu, os yw cerbyd yn achosi – neu'n debygol o achosi – pryder, trallod neu annifyrrwch oherwydd ei ddefnyddio'n ddi-hid neu'n anghyfreithlon, gall swyddogion atafaelu'r cerbyd ar y fan a'r lle. Mae hyn yn berthnasol i niwsansau penodol, gan gynnwys rasio stryd anghyfreithlon, camddefnyddio beiciau oddi ar y ffordd a chynulliadau cerbydau aflonyddgar.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn ei gwneud hi'n haws i'r heddlu, awdurdodau lleol ac asiantaethau partner fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud â cherbydau yn eich cymuned.
Os gwelwch unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud â cherbydau, ffoniwch 101 neu cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio byw yn https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/. Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng. |