|
Isod mae cyngor gan y Llywodraeth ynghylch cael tanau yn eich gerddi, yn enwedig yn ystod y tywydd poeth a sych sydd gennym, gan helpu i atal lledaeniad posibl tân. Mae risg uchel iawn o danau gwyllt yn genedlaethol. Ni ddylai trigolion, tirfeddianwyr ac ymwelwyr ymgymryd ag unrhyw weithgaredd a allai gynnau tân, gan gynnwys barbeciws tafladwy, pyllau tân, llosgyddion gardd neu dân gwyllt. Gall hyd yn oed fflam fach ddatblygu'n gyflym i fod yn dân gwyllt mawr gan beryglu bywydau, cartrefi, busnesau ac ymatebwyr brys. |