|
||
|
|
||
|
||
|
Pryderon ynghylch tanau glaswellt. |
||
|
Mae Tîm Plismona Bro Treforys yn ymwybodol o bryderon ynglŷn â thanau glaswellt ar gaeau Mynydd Garnliwdd. Mae ymholiadau’n parhau, gyda swyddogion lleol yn cysylltu â’r gwasanaeth tân ac achub lleol i sefydlu amgylchiadau pellach sy’n ymwneud â’r digwyddiad. Gofynnwn i aelodau'r cyhoedd beidio â dyfalu na rhannu gwybodaeth heb ei gwirio ar gyfryngau cymdeithasol . Peidiwch â thybio bod gwybodaeth sy'n cylchredeg ar-lein yn gywir nes bod ymholiadau'r heddlu wedi'u cwblhau. Rydym yn deall y pryderon o fewn y gymuned leol a byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth lle bo'n briodol wrth i ymholiadau fynd rhagddynt. Diolch am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad parhaus. | ||
Reply to this message | ||
|
|






