|
Rydym yn deall pryderon preswylwyr ynghylch dargyfeirio traffig a cherbydau yn teithio i'r cyfeiriad anghywir o amgylch Twynyrodyn oherwydd cau Twyn Hill yn rhannol. Felly, hoffem eich sicrhau ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu preswylwyr ac atal hyn rhag digwydd.
Ddydd Sul 26 Gorffennaf, gwnaethom gynnal ymgyrch lle gwnaethom atal traffig oedd yn teithio i'r cyfeiriad anghywir. Dros gyfnod o dair awr a hanner, cafodd pedwar car eu hatal a'u delio â hwy yn unol â hynny.
Byddwn yn parhau i fonitro'r ardal tra bod y ffordd ar gau. |