|
||
|
|
||
|
||
|
Tipio anghyfreithlon ar Seawall Road |
||
|
Annwyl Breswylydd, Yr wythnos hon, cafodd y tîm plismona lleol eu rhybuddio am bost Facebook ar grŵp Pengam Green, yn ymwneud â 2 ddyn yn tipio sbwriel yn anghyfreithlon o gar ar Seawall Road, Tremorfa. Yn dilyn ymchwiliad cyflym, llwyddom i nodi'r rhai oedd yn gyfrifol ac mae Cyngor Caerdydd bellach yn cymryd camau yn erbyn yr unigolion. Rydym hefyd yn ymwybodol o sawl digwyddiad o dipio anghyfreithlon ym Mharc Tremorfa. Mae'r rhain hefyd wedi cael eu hamlygu i'r Cyngor, sy'n edrych ar nodi'r rhai sy'n gyfrifol a sicrhau bod mynediad anghyfreithlon i'r parc yn cael ei atal. Hoffai Tîm Plismona Cymdogaeth Sblot a Thremorfa ddiolch i drigolion lleol am dynnu sylw at y mater a'n helpu i gymryd camau gweithredu. Rydym yn cymryd y digwyddiadau hyn o ddifrif a byddwn bob amser yn ceisio cymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw un sy'n dymuno difetha ein cymuned. Daliwch ati i roi gwybod am faterion o'r fath a'u tynnu sylw atynt. | ||
Reply to this message | ||
|
|






