|
||
|
|
||
|
||
|
Ymweliad â Pharc Ffordd Langdon |
||
|
Annwyl breswylydd, Mae eich SCCH lleol wedi mynychu Langdon Road, Dociau SA1 i gynnal ymweliad ar y cyd ochr yn ochr â Thîm Lleihau Llosgi Bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chynghorydd Lleihau Troseddau Heddlu De Cymru i baratoi ar gyfer agor y parc newydd. Roedd yn gyfle gwych i'r tîm asesu'r ardal a lleoliad y parc oherwydd cynnydd mewn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) yn ardal Dociau Abertawe. Bydd SCCH lleol yn cynnal patrolau yn yr ardal, os oes gennych unrhyw bryderon/ymholiadau, dewch i gael sgwrs gyda ni :) Cofion cynnes, Tîm Plismona Cymdogaeth St Thomas/Port Tennant/SA1
| ||
Reply to this message | ||
|
|







