|
||
|
|
||
|
||
|
Parc sglefrio Canolfan Phoenix |
||
|
Helo trigolion Townhill a Mayhill, Gobeithio eich bod chi'n iawn. Rydym wedi sylwi ar gynnydd mawr mewn gweithgarwch ers i'r parc sglefrio newydd gael ei roi ar waith. Oherwydd hyn, rydym wedi bod yn cynyddu ein patrolau yn yr ardal ac yn siarad â phobl ifanc lleol am ymddygiadau da. Mae mwyafrif helaeth y bobl ifanc yn yr ardal yn ymddwyn yn dda ac yn defnyddio'r cyfleusterau fel y bwriadwyd. Fodd bynnag, mae lleiafrif bach iawn sydd wedi achosi un neu ddau broblem yn ddiweddar ac mae'r heddlu wedi siarad â nhw. Rydym hefyd am nodi y dylai diogelwch fod yn hollbwysig wrth ddefnyddio'r cyfleusterau hyn. Dylai rhieni gynghori eu plant i wneud yn siŵr eu bod yn gwisgo offer amddiffynnol fel helmedau er mwyn sicrhau diogelwch. Gobeithiwn y gallwch chi i gyd barhau i fwynhau'r cyfleusterau newydd yn y gymuned. Dymuniadau gorau, | ||
Reply to this message | ||
|
|






