|
||
|
|
||
|
||
|
Dyn o Gastell-nedd wedi'i garcharu am gyflenwi cocên |
||
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu am ei ymwneud â chyffuriau Dosbarth A. Cafodd Chad White, 34 oed, o Gastell-nedd, ei arestio ym mis Mawrth eleni, ac wedi hynny, wrth chwilio ei gyfeiriad, canfuwyd meintiau o bowdr gwyn a oedd yn gocên, yn ogystal ag arian parod, bagiau snap a chloriannau pwyso. Plediodd White yn euog i un cyhuddiad o feddu gyda'r bwriad o gyflenwi cyffur rheoledig Dosbarth A, un cyhuddiad o fod yn rhan o gyflenwi Dosbarth A ac un cyhuddiad o gaffael a defnyddio eiddo troseddol. Mae White wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar. Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Richard George: “Mae Chad White yn werthwr cyffuriau arall a gafodd ei ddarganfod fel rhan o’n hymchwiliadau i gyflenwad cyffuriau yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. “Fel cynifer o rai eraill o’i flaen, mae ei ymwneud â’r fasnach anghyfreithlon hon wedi arwain at iddo gael dedfryd hir o garchar. “Mae cyffuriau Dosbarth A yn difetha’r bobl sy’n eu defnyddio yn ogystal â’u ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau ehangach. Byddwn bob amser yn mynd ar ôl unrhyw un sy’n ymwneud â’r gweithgaredd anghyfreithlon hwn ac yn eu dwyn gerbron y llys.” | ||
Reply to this message | ||
|
|







