|
||
|
|
||
|
||
|
Mae heddlu De Cymru yn recriwtio |
||
|
Swyddi gwag presennol Heddlu De Cymru https://www.south-wales.police.uk/police-forces/south-wales-police/areas/careers/careers/ Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly… Ymunwch â Ni Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd gyda'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel. Rydym am fod y gorau wrth ddeall ac ymateb i anghenion ein cymuned. I wneud hyn mae angen yr ymgeiswyr gorau o ystod eang o gefndiroedd arnom i ddod yn rhan o'n teulu plismona. Mae gyrfa mewn plismona yn gofyn am sgil, tosturi, arweinyddiaeth, menter, ac awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i gymdeithas. Rydym yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ar draws ardal o tua 800 milltir sgwâr o Abertawe i Ferthyr Tudful i'n prifddinas, Caerdydd. Mae'n swydd ond lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath - ac mae'n cynnig amrywiaeth o yrfaoedd boddhaol a chyffrous. Gall y rôl fod yn heriol, a bydd angen i chi fod yn wydn ac yn ddyfeisgar, ond rydym ni yma i'ch cefnogi. Bydd angen i chi fod wedi ymrwymo i daith sy'n gofyn am gydbwyso gofynion academaidd a rôl newydd o fewn gwasanaeth plismona 24/7. Mae'n swydd heb ei hail ac rydym ni'n chwilio am bobl â sgiliau a phrofiadau amrywiol i ymuno â'n tîm llwyddiannus. Mae mwy o opsiynau nag erioed i ddod yn Swyddog Heddlu yn #TeamSWP bellach: | ||
Reply to this message | ||
|
|






