|
||
|
|
||
|
||
|
Galwyr Di-wahoddiad - ardal Langland |
||
|
Annwyl breswylydd, Byddwch yn ymwybodol ein bod wedi derbyn adroddiad am bobl amheus yn mynychu cyfeiriadau yn ardal Langland yn ystod prynhawn dydd Mawrth 7fed Ebrill. Roedd nifer o ddynion yn mynd o ddrws i ddrws yn cynnig gwasanaethau glanhau ffenestri a garddio. Methodd y dynion â darparu prawf adnabod ac ni ddarparwyd unrhyw ddogfennaeth yn ymwneud â'r cwmni yr oeddent yn honni eu bod yn gweithio iddo. Gwnewch fusnes gyda masnachwyr ag enw da yn unig, yr ydych yn ymddiried ynddynt. Rhowch wybod am weithgarwch amheus drwy 999 (digwyddiad yn parhau) neu 101 (ar ôl y digwyddiad). Am ragor o gyngor, cysylltwch â Thîm Plismona Cymdogaeth Gŵyr neu Adran Safonau Masnach Cyngor Abertawe. Diolch yn fawr.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







