|
||
|
|
||
|
||
|
Gorchymyn Gwasgaru |
||
|
Annwyl Breswylydd Mae swyddogion ym Maesteg wedi cael pwerau ychwanegol i ddelio ag unigolion sy'n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol y penwythnos hwn. Gwnaed y penderfyniad yn dilyn nifer o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal dros yr wythnosau diwethaf sydd wedi achosi pryder ymhlith trigolion. Bydd Gorchymyn Gwasgaru a roddir o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ar waith am 48 awr o 16:00 ddydd Gwener 27 Mawrth 2026 i 04:00 ddydd Sul 29 Mawrth 2026 yng Nghanol Tref Maesteg a'r cyffiniau. Bydd Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gallu cyfarwyddo unrhyw un sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu ofid i adael yr ardal. Bydd gennym hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y mae swyddogion yn amau ei fod yn cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol. | ||
Reply to this message | ||
|
|






