|
||
|
|
||
|
||
|
Beiciau oddi ar y ffordd yn yr ardal leol. |
||
|
Helo{FIRST_NAME} , Rydym yn ymwybodol o bryderon parhaus ynghylch beiciau oddi ar y ffordd sy'n cael eu reidio yn yr ardal a'r niwsans a'r risgiau diogelwch y gall hyn eu hachosi i drigolion. Yn aml, caiff y beiciau hyn eu reidio ar lwybrau troed, parciau a mannau cyhoeddus lle gallant beri perygl i gerddwyr ac achosi aflonyddwch sylweddol yn y gymuned. Mae Heddlu De Cymru yn gweithio i fynd i'r afael â'r mater hwn, fodd bynnag rydym yn eich annog chi i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau yn yr ardal a darparu unrhyw wybodaeth a allai ein helpu i adnabod y rhai sy'n gyfrifol. Gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau drwy: Wrth adrodd, cofiwch gynnwys cymaint o fanylion â phosibl fel: Os oes gennych unrhyw wybodaeth ond byddai'n well gennych aros yn anhysbys, gallwch hefyd roi gwybod am hyn i Crimestoppers ar 0800 555111. Mae pob adroddiad yn ein helpu i greu darlun cliriach o pryd a ble mae'r gweithgaredd hwn yn digwydd ac yn ein galluogi i dargedu patrolau a gweithio gydag asiantaethau partner i leihau'r broblem. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r mater hwn, neu os hoffech godi unrhyw bryderon gyda'ch tîm plismona cymdogaeth lleol, mae croeso i chi gysylltu â mi'n uniongyrchol a byddaf yn hapus i gynorthwyo. Diolch yn fawr, SCCH Hannah Thomas Ffôn - 07977 698262 | ||
Reply to this message | ||
|
|






