|
Heddiw bu Swyddogion yn cynorthwyo Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Ieuenctid (JRSO's), Ysgol Gynradd Dowlais i sicrhau bod rhieni yn parcio'n ddiogel ac yn gyfreithlon wrth gasglu eu plant. Siaradwyd â nifer o rieni a rhoddwyd un tocyn rhybudd gan y JRSO's. Bydd Swyddogion yn patrolio'r ardal a phe bai'r rhieni a siaradwyd â nhw yn parhau i barcio'n anghyfreithlon caiff hysbysiadau cosb sefydlog eu rhoi. Mae'r JRSO's yn gweithio ar gylchlythyr a gaiff ei rannu pan fydd wedi'i gwblhau sy'n dangos lle y gall rhieni barcio'n gyfreithlon ac yn ddiogel yn y dyfodol sydd ond ychydig camau i ffwrdd. Parciwch mewn ffordd ddiogel a chyfreithlon yn arbennig o gwmpas ysgolion yn y dyfodol. |