|
||
|
|
||
|
||
|
Wythnos Dwysáu Llinellau Sirol |
||
|
Prynhawn da Ar hyn o bryd mae Heddlu De Cymru yn cymryd rhan yn Wythnos Dwysáu Llinellau Sirol o 2 Mawrth - 8 Mawrth i ledaenu ymwybyddiaeth o'r materion dan sylw. Llinellau Sirol yw'r enw a roddir i ddelio cyffuriau lle mae grwpiau troseddol cyfundrefnol (OCGS) yn defnyddio llinellau ffôn i symud a chyflenwi cyffuriau, fel arfer o ddinasoedd i drefi llai ac ardaloedd gwledig. Maent yn camfanteisio ar bobl agored i niwed, gan gynnwys plant a'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gaethiwed, trwy eu recriwtio i ddosbarthu cyffuriau, a elwir yn "Rhedeg Cyffuriau". Arwyddion i edrych amdanynt a allai ddangos bod rhywun yn ymwneud â Llinellau Sirol - Mae'n hysbys bod rhwydweithiau troseddol yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i feithrin a recriwtio plant ar gyfer llinellau sirol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch rhywun y gallech deimlo y gallai fod yn rhan o linellau sirol, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy'r sianeli priodol. Am ragor o wybodaeth am Linellau Sirol ewch i wefan Llinellau Sirol yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol. | ||
Reply to this message | ||
|
|






