|
Sgamiau | Wyddoch chi! Ond ydyn nhw'n gwybod? Rydym wedi derbyn cynnydd yn nifer yr adroddiadau ynghylch sgamiau ffonau symudol.
Mae dioddefwyr wedi derbyn negeseuon testun a galwadau ffôn yn honni eu bod o'r banc yn nodi bod troseddwyr wedi cael mynediad at eu cyfrifon a bod angen i ddioddefwyr rannu manylion gyda nhw 'eu banc' er mwyn iddynt amddiffyn eu cyfrif. Nid yw'r bobl hyn o'r banc!
Mae'r bobl hyn yn argyhoeddiadol iawn a chyn i ddioddefwyr wybod maen nhw'n rhannu manylion personol ac mae gan y troseddwyr hyn fynediad at filoedd o bunnoedd.
Ni fydd eich banc byth yn cysylltu â chi dros y ffôn na thrwy neges destun yn gofyn am wybodaeth bersonol.
Os bydd rhywun yn ffonio neu'n anfon neges destun gan honni eu bod nhw o'r banc, rhowch y ffôn i lawr! Yna cysylltwch â'r rhif ar gefn eich cerdyn banc neu ddatganiad banc i sicrhau eich bod yn cael eich trosglwyddo'n uniongyrchol
Mae'r rhan fwyaf ohonom yn meddwl ein bod ni'n ddigon ymwybodol o'r arwyddion a pheidio â dod yn ddioddefwyr o'r fath, ond, beth am ein hanwyliaid? Ffrindiau a Theulu? Cymdogion agored i niwed? Ydyn nhw'n ymwybodol o'r arwyddion? Siaradwch â nhw! Atgoffwch nhw! Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'ch SCCH lleol
am ragor o wybodaeth ewch i - Sut i adnabod twyll - Stopiwch! Meddyliwch am Dwyll |