|
||
|
|
||
|
||
|
Blaenoriaethau Lleol Diweddariad ar Fwrgleriaeth Tai |
||
|
Annwyl{FIRST_NAME} , Diolch i chi am gymryd rhan yn yr arolwg blaenoriaeth lleol yn ddiweddar, mae eich adborth parhaus am faterion lleol sy'n peri pryder yn hanfodol er mwyn ein galluogi i dargedu adnoddau'n effeithiol. Er na wnaethoch chi sôn am fyrgleriaeth tai fel pryder yn eich adborth diwethaf, mae'r mater hwn wedi cael ei godi gan aelodau eraill o'ch ardal leol felly roedden ni'n meddwl y byddech chithau hefyd yn hoffi derbyn y diweddariad hwn. Yn ddiweddar, rydym wedi cael nifer o adroddiadau am bobl yn rhoi cynnig ar ddolenni drysau eiddo a garejys yn ardal Baglan. Mae byrgleriaeth yn drosedd ymledol iawn a all gael effaith barhaol ar ddioddefwyr. Os ydych chi wedi bod yn ddioddefwr ac angen cefnogaeth a chymorth, dylech chi fod wedi cael cynnig gwasanaethau Cymorth i Ddioddefwyr. Efallai eich bod wedi gwrthod ar y pryd, neu heb sylwi ar y cynnig, ond gallwch gyfeirio'ch hun unrhyw bryd drwy ffonio 0808 168 9111 neu ymweld â'u gwefan www.victimsupport.org.uk . Nid yw lladron eisiau cael eu dal, felly gall cymryd camau i wneud eich cartref neu safle busnes yn ddiogel ac yn llai deniadol i ladron fynd yn bell i leihau'r risg. Nid yw pob cyngor, na chynnyrch diogelwch a argymhellir, yr un peth, nac o reidrwydd yn addas at y diben. Os ydych chi'n bwriadu cymryd camau cadarnhaol i atal eich hun rhag bod yn ddioddefwr y math hwn o drosedd, mae cymorth a chyngor ar gael ar wefan Gwarchod y Gymdogaeth . Os byddwch chi byth yn profi'r broblem hon neu os oes gennych chi wybodaeth am ddigwyddiad, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio ein hoffer adrodd ar-lein yn https://www.south-wales.police.uk , siaradwch â gweithredwr yn Ystafell Gyfathrebu'r Heddlu trwy ein sgwrs we ar-lein neu ffoniwch y rhif di-argyfwng 101. Fel arall, gallwch aros 100 y cant yn anhysbys drwy gysylltu â'r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy eu ffurflen ar-lein na ellir ei holrhain yn crimestoppers-uk.org . Cadwch eich barn yn gyfredol drwy gymryd ychydig funudau i ddiweddaru ein harolwg blaenoriaeth. Gallwch wneud hynny o'r botwm isod ac rydym yn ei anfon allan yn rheolaidd fel y gallwch ddylanwadu ar beth yw ein blaenoriaethau. Gallwch hefyd newid pa faterion rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi amdanynt drwy glicio'r botwm gosodiadau isod. Efallai yr hoffech chi hefyd roi sgôr i'r neges hon i roi gwybod i ni a oedd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol ai peidio, neu ddefnyddio'r system i newid pa faterion rydyn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi amdanynt. Gallwch chi wneud y pethau hyn yn gyflym ac yn hawdd gan ddefnyddio'r botymau isod. | ||
Reply to this message | ||
|
|







