Mae amser o hyd i wneud cais i fod yn Wirfoddolwr Cymorth yr Heddlu gyda Heddlu De Cymru yn ardal Caerdydd a Bro Morganwg.
Fel Gwirfoddolwr Cymorth yr Heddlu byddwch yn ymwneud â'r canlynol, a llawer mwy:
> Bws Diogelwch Caerdydd > Digwyddiadau marcio beiciau > Cefnogi nifer o adrannau gan gynnwys Timau Diogelwch Cymunedol a Phlismona Cymdogaeth > Gweithio ochr yn ochr â swyddogion a SCCH mewn digwyddiadau cerddoriaeth a digwyddiadau mawr eraill a gynhelir yng Nghaerdydd > Mynychu sesiynau hyfforddi gan gynnwys rheoli gwrthdaro, sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chymorth cyntaf > Cefnogi Tîm Cyswllt y Brifysgol yn ystod cyfnod y Glasfyfyrwyr
I wneud cais rhaid i chi:
> Bod yn 18+ > Wedi bod yn breswylydd yn y DU am fwy na blwyddyn
Mae ceisiadau ar agor i'r gymuned myfyrwyr a'r cyhoedd yn ardal Caerdydd a'r Fro.
Ymrwymiadau:
> Disgwylir i Fyfyrwyr Gwirfoddol gwblhau 12 awr y mis (yn ystod y flwyddyn academaidd) > Disgwylir i Wirfoddolwyr Cymunedol gwblhau 8 awr y mis (yn ystod y flwyddyn galendr)
I ofyn am becyn cais, cwblhewch ffurflen mynegiant o ddiddordeb sydd i'w chael yma - https://forms.office.com/e/UjFm4B0fq1
Am ragor o wybodaeth am wirfoddoli gyda ni anfonwch e-bost at: policesupportvolunteers@south-wales.police.uk
**Mae ceisiadau'n cau am 10am ddydd Gwener 31 Hydref 2025** |