{SITE-NAME} Logo

Message Type Icon Heddlu De Cymru

Beiciau oddi ar y ffordd anghyfreithlon

Helô, fel rhan o South Wales Listens, un o'r materion rydych chi'n sôn wrthym amdanyn nhw'n rheolaidd yw mater beiciau modur anghyfreithlon yn gyrru mewn modd peryglus a gwrthgymdeithasol.

Er bod hwn yn fater anodd o ran mynd ar ôl a dal y beiciau hyn fel y nodwyd yn Ely beth amser yn ôl, mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Mae'n bleser gennyf eich hysbysu, o ganlyniad i gydweithrediad rhwng swyddogion traffig Heddlu De Cymru, swyddogion ymateb a hofrennydd yr Heddlu ddydd Sadwrn 23 Awst, ar ôl cael eu gweld gan swyddogion yn reidio eu beic modur mewn modd peryglus, bod dau ddyn wedi cael eu harestio ac atafaelwyd beic anghyfreithlon yn ardal Trallwn/Llansamlet.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein holl bwerau perthnasol i annog a rhwystro'r gweithredoedd hyn.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynghylch beiciau anghyfreithlon cysylltwch â Heddlu De Cymru neu’n ddienw drwy Taclo’r Taclau.

Diolch am eich cefnogaeth yn y mater hwn


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Tîm plismona cymdogaeth Treforys ac Eastside / Morriston and Eastside Neighbourhood Policing Team
Neighbourhood Alert