![]() |
||
|
||
|
||
Recriwtio PCSO |
||
Ydych chi'n adnabod rhywun a allai fod â diddordeb neu ydych chi'n chwilio am newid gyrfa? Mae ceisiadau ar agor ar hyn o bryd ar gyfer rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ardaloedd Caerdydd a'r Fro a Morganwg Ganol. Fel SCCH byddwch yn gweithio yng nghanol ein cymunedau gan ddarparu presenoldeb gwisg gweladwy, hygyrch a hawdd mynd ato. Mae'n hanfodol eich bod yn gallu dangos y rhinweddau canlynol: Sgiliau cyfathrebu da : Mae'n hanfodol eich bod chi'n gallu gwrando ar anghenion a phryderon eraill. Y gallu i ddatblygu perthnasoedd gwaith effeithiol : Fel SCCH bydd angen i chi fod yn rhagweithiol wrth feithrin ymddiriedaeth a hyder gyda chydweithwyr a'r gymuned. Y gallu i weithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm : Yn aml, bydd eich gwaith fel SCCH yn eich gweld yn gweithredu ar eich pen eich hun, ond mae'n bwysig eich bod yn gallu cyfrannu'n effeithiol at weithgareddau yn y gymuned leol ehangach. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rôl yma . Ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n gwneud SCCH gwych? Oes gennych chi ddiddordeb mewn newid gyrfa eich hun? Gallwch wneud cais yma . Bydd ceisiadau'n cau am 12pm ar yr 31ain o Awst. | ||
Reply to this message | ||
|
|