{SITE-NAME} Logo

Message Type Icon Heddlu De Cymru

Gorchymyn Gwasgaru Adran 35 - Ynys y Barri

Mae swyddogion yn y Barri wedi cael pwerau ychwanegol i ddelio ag unrhyw un sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae gorchymyn gwasgaru 48 awr, a roddir o dan Adran 35 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ar waith yn Ynys y Barri tan 3:00pm ddydd Sul, Awst 17eg.

O dan Adran 35 o'r Ddeddf, mae swyddogion heddlu yn gallu cyfarwyddo unrhyw un sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu ofid i adael yr ardal.

Bydd ganddyn nhw hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y mae swyddogion yn amau ei fod yn cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r gorchymyn yn fesur ataliol yn dilyn digwyddiad ar Ynys y Barri ddydd Mawrth Awst 12fed.

Galwyd yr heddlu i Ffordd Paget tua 7:30pm i adroddiad bod bachgen 15 oed wedi cael ei ymosod arno gan grŵp o fechgyn ger maes parcio Ffordd Paget.

Anogir unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gan ddefnyddio Sgwrs Fyw Heddlu De Cymru, ar-lein neu drwy 101.

Rhowch y cyfeirnod 2500258409


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Tîm plismona cymdogaeth y Barri a’r Fro / Barry & Vale Neighbourhood Policing Team
Neighbourhood Alert