![]() |
||
|
||
|
||
Positive Action / Gweithredu Cadarnhaol |
||
Gweithredu CadarnhaolNEGES DWYIEITHOG / NEGES DWYIEITHOG Helo {FIRST_NAME} Diolch i chi am ymateb i'n harolwg. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed yn Nhonyrefail targedu’r defnydd o gerbydau i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Heddiw derbyniodd swyddogion wybodaeth ynghylch cerbyd sydd wedi cael ei ddefnyddio dro ar ôl tro yn yr ardal gan bobl y gwyddys nad oes ganddynt yswiriant a thrwydded. Lleolwyd y cerbyd yn Ystâd Ddiwydiannol Gelli Gron a chafodd ei atafaelu gan yr Heddlu. Tra roedd swyddogion yn bresennol yn delio â'r mater hwn, daethpwyd o hyd i gerbyd arall yn cael ei yrru heb yswiriant. Adroddwyd y gyrrwr i gael ei alw i'r llys ac atafaelwyd y cerbyd. Rydym yn cymryd y defnydd o gerbydau anghyfreithlon ar ein ffyrdd o ddifrif a byddwn yn ymdrin ag ef yn gadarn. Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynghylch unrhyw un yn defnyddio cerbyd yn beryglus neu heb gyfreithlondeb priodol ar waith, gallwch roi gwybod am yr wybodaeth hon, yn ddienw os dymunwch drwy'r dulliau isod. Fel bob amser, diolch i'r aelodau hynny o'r cyhoedd sy'n trosglwyddo gwybodaeth i ni er mwyn i ni weithredu arni.
Diolch am eich cymorth. Dim ond drwy gydweithio rhwng yr heddlu a'r cyhoedd y gallwn atal a chanfod troseddau. Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond does dim angen ymateb brys arnoch chi? Gallwch wneud adroddiad ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk , anfon neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. | ||
Reply to this message | ||
|
|