![]() |
||
|
||
|
||
Positive Action / Gweithredu Cadarnhaol |
||
Gweithredu CadarnhaolNEGES DWYIEITHOG / NEGES DWYIEITHOG Helo {FIRST_NAME} Diolch i chi am ymateb i'n harolwg. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed yn Ward Morfa yn targedu delio cyffuriau. Yn ddiweddar, mae swyddogion wedi mynychu cyfeiriad yn Ward Morfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weithredu gwarant sy'n gysylltiedig â delio cyffuriau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt. Roedd y warant hon yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd gan y gymuned leol a thimau plismona cymdogaeth. Byddwn yn parhau i weithio tuag at fynd i'r afael â delio cyffuriau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r gwarantau hyn yn dibynnu'n fawr ar wybodaeth a gafwyd gan ein cymuned leol a gwaith swyddogion cymdogaeth. Rhowch wybod am unrhyw bryderon sydd gennych neu unrhyw beth rydych chi'n credu sy'n weithgarwch amheus yn eich cymdogaeth. Diolch am eich cymorth. Dim ond drwy gydweithio rhwng yr heddlu a'r cyhoedd y gallwn atal a chanfod troseddau. Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond does dim angen ymateb brys arnoch chi? Gallwch wneud adroddiad ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk , anfon neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. | ||
Reply to this message | ||
|
|