{SITE-NAME} Logo

Message Type Icon Heddlu De Cymru

Positive Action / Gweithredu Cadarnhaol

Gweithredu Cadarnhaol

Helo {FIRST_NAME}

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed yn ardaloedd Tonyrefail a Gilfach Goch. targedu pobl sy'n targedu ein siopau lleol ac yn cyflawni troseddau lladrad dro ar ôl tro. Yn aml, ystyrir y mathau hyn o droseddau fel troseddau bach, ond rydym yn cydnabod yr effaith y mae troseddau fel y rhain yn ei chael ar fusnesau lleol, yn enwedig ar gyfer gwerthwyr lleol llai, annibynnol.

Yn ddiweddar mae swyddogion wedi arestio dyn mewn cysylltiad â nifer o droseddau lladrad yn yr ardal. Mae'r person dan sylw wedi ymddangos yn y llys yr wythnos hon ac wedi cael ei ddedfrydu i 12 wythnos o garchar.

Hoffem estyn ein diolch i'r staff yn y siopau lleol sy'n gweithio mor galed i'n cynorthwyo i ganfod y math hwn o drosedd.

Hoffem hefyd estyn ein diolch i Siambr Fasnach Tonyrefail sydd wedi bod mor ddefnyddiol wrth gynorthwyo'r achos hwn, yn enwedig o ran ymholiadau teledu cylch cyfyng. Mae'r gwaith y mae'r Siambr wedi'i wneud i wella diogelwch yn y dref yn parhau i fod yn amhrisiadwy wrth ganfod troseddau lleol.

 

Diolch am eich cymorth. Dim ond drwy gydweithio rhwng yr heddlu a'r cyhoedd y gallwn atal a chanfod troseddau.

Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond does dim angen ymateb brys arnoch chi?

Gallwch wneud adroddiad ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk , anfon neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Victoria Hughes
(South Wales Police, Police Constable, Rhondda - NPT 2)
Neighbourhood Alert