![]() |
||
|
||
|
||
Blaenoriaethau Lleol Ymddygiad gwrthgymdeithasol – Diweddariad cyffredinol |
||
Annwyl{FIRST_NAME} , Diolch i chi am gymryd rhan yn yr arolwg blaenoriaeth lleol yn ddiweddar, mae eich adborth parhaus am faterion lleol sy'n peri pryder yn hanfodol er mwyn ein galluogi i dargedu adnoddau'n effeithiol. Er na wnaethoch chi sôn am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - cyffredinol fel pryder yn eich adborth diwethaf, mae'r mater hwn wedi cael ei godi gan aelodau eraill o'ch ardal leol felly roedden ni'n meddwl y byddech chithau hefyd yn hoffi derbyn y diweddariad hwn. Ein nod yw mynd i'r afael ag adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dilyn adroddiadau am gerrig yn cael eu taflu gan achosi difrod i eiddo. Mae'r adroddiadau'n bennaf o fewn Fenton Place, Llys Y Grug a'r ardaloedd cyfagos. Gall mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn fater cymhleth, ac un sy'n gofyn am fewnbwn a chamau gweithredu gan fwy na'r heddlu yn unig. Nod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yw rhoi dioddefwyr yn gyntaf, gan roi pŵer i bobl leol a galluogi gweithwyr proffesiynol i ddod o hyd i'r atebion gorau ar gyfer eu hardal leol. Mae'r ddeddf yn rhoi offer a phwerau hyblyg i'r heddlu, awdurdodau lleol ac asiantaethau lleol eraill y gallant eu defnyddio i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys:
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cwmpasu ystod eang o weithgarwch annerbyniol sy'n achosi niwed i unigolyn, i'w gymuned neu i'w amgylchedd. Gallai hyn fod yn weithred gan rywun arall sy'n gwneud i chi deimlo'n ofnus, yn cael eich aflonyddu, neu'n ofidus. Mae hefyd yn cynnwys ofn trosedd neu bryder am ddiogelwch y cyhoedd, anhrefn cyhoeddus, neu niwsans cyhoeddus. Mae enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys: · Cymdogion niwsans, swnllyd neu ddi-ystyriol · Fandaliaeth, graffiti, a phostio anghyfreithlon · Yfed ar y stryd · Difrod amgylcheddol gan gynnwys taflu sbwriel, dympio sbwriel a gadael ceir · Gweithgaredd sy'n gysylltiedig â phuteindra · Camddefnyddio tân gwyllt · Defnydd anystyriol neu amhriodol o gerbydau Os byddwch chi byth yn profi'r broblem hon neu os oes gennych chi wybodaeth am ddigwyddiad, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio ein hoffer adrodd ar-lein yn https://www.south-wales.police.uk , siaradwch â gweithredwr yn Ystafell Gyfathrebu'r Heddlu trwy ein sgwrs we ar-lein neu ffoniwch y rhif di-argyfwng 101. Fel arall, gallwch aros 100 y cant yn anhysbys drwy gysylltu â'r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy eu ffurflen ar-lein na ellir ei holrhain yn crimestoppers-uk.org . Cadwch eich barn yn gyfredol drwy gymryd ychydig funudau i ddiweddaru ein harolwg blaenoriaeth. Gallwch wneud hynny o'r botwm isod ac rydym yn ei anfon allan yn rheolaidd fel y gallwch ddylanwadu ar beth yw ein blaenoriaethau. Gallwch hefyd newid pa faterion rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi amdanynt drwy glicio'r botwm gosodiadau isod. Efallai yr hoffech chi hefyd roi sgôr i'r neges hon i roi gwybod i ni a oedd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol ai peidio, neu ddefnyddio'r system i newid pa faterion rydyn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi amdanynt. Gallwch chi wneud y pethau hyn yn gyflym ac yn hawdd gan ddefnyddio'r botymau isod. | ||
Reply to this message | ||
|
|