![]() |
||
|
||
|
||
Diweddariad ar ddelio cyffuriau |
||
Annwyl{FIRST_NAME} , Roeddwn i eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â delio cyffuriau, rhywbeth y mae pobl o gwmpas eich ardal wedi'i amlygu fel mater o bryder yn yr arolwg blaenoriaeth. Mae tîm plismona cymdogaeth Trelái, sy'n gweithio ochr yn ochr ag Uned Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro, wedi gweithredu dau warant chwilio mewn dau gyfeiriad yn ardaloedd Trelái/Caerau heddiw. O ganlyniad, arestiwyd un dyn am amrywiol droseddau cyffuriau, atafaelwyd nifer o gyffuriau dosbarth A a dosbarth B ynghyd â beiciau pedal wedi'u haddasu'n drydanol, beic oddi ar y ffordd ac atafaelwyd swm mawr o arian parod hefyd. Mae marchnad cyffuriau anghyfreithlon yn fusnes mawr, gwerth tua £9.4 biliwn y flwyddyn ac mae marwolaethau o gyffuriau wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed. Gan ystyried y niwed i iechyd, costau troseddu ac effeithiau ehangach ar gymdeithas gyda'i gilydd, amcangyfrifir bod cyfanswm costau cyffuriau i gymdeithas dros £19 biliwn, sy'n fwy na dwywaith gwerth y farchnad ei hun. Os ydych chi'n cael eich effeithio'n andwyol gan ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich cymuned sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau, mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn amlinellu'r offer a'r pwerau hyblyg y gall yr heddlu, awdurdodau lleol ac asiantaethau lleol eraill eu defnyddio i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Os byddwch chi byth yn profi'r broblem hon neu os oes gennych chi wybodaeth am ddigwyddiad, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio ein hoffer adrodd ar-lein yn https://www.south-wales.police.uk , siaradwch â gweithredwr yn Ystafell Gyfathrebu'r Heddlu trwy ein sgwrs we ar-lein neu ffoniwch y rhif di-argyfwng 101. Fel arall, gallwch aros 100 y cant yn anhysbys drwy gysylltu â'r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy eu ffurflen ar-lein na ellir ei holrhain yn crimestoppers-uk.org . Gan nad ydych wedi cyfrannu at yr arolwg blaenoriaeth yn ddiweddar, efallai nad ydym yn ymwybodol o faterion yr hoffech i ni ganolbwyntio arnynt. Cymerwch ychydig funudau i ddweud eich dweud yn ddiogel ac yn breifat gan ddefnyddio'r botwm isod, bydd hyn yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar bethau sy'n bwysig i chi. {SURVEY [PRIORITY]} Efallai yr hoffech chi hefyd roi sgôr i'r neges hon i roi gwybod i ni a oedd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol ai peidio, neu ddefnyddio'r system i newid pa faterion rydyn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi amdanynt. Gallwch chi wneud y pethau hyn yn gyflym ac yn hawdd gan ddefnyddio'r botymau isod. | ||
Reply to this message | ||
|
|