|
||||
|
||||
|
||||
Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni - ASBHelo Rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) ar hyd Bae Abertawe / Promenâd Yn dilyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardaloedd hyn rydym wedi (cynnal patrolau gwelededd uchel) wedi targedu ein patrolau i gynnig tawelwch meddwl i bobl sy'n mynychu dosbarthiadau ioga ar y traeth nos Fawrth a nos Iau. Nos Iau (15fed) roedd SCCH Tancock yn bresennol yn yr ardal ynghyd â Paul Evans o Dîm Diogelwch Cymunedol Cyngor Abertawe. Rydym hefyd wedi nodi nifer o bobl ifanc a oedd yn rhan o'r digwyddiadau pythefnos yn ôl ac mae camau priodol wedi'u cymryd yn dilyn trafodaethau gydag athro'r dosbarth. Diolch am eich cymorth. Dim ond drwy gydweithio rhwng yr heddlu a'r cyhoedd y gallwn atal a chanfod troseddau. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cwmpasu ystod eang o weithgarwch annerbyniol sy'n achosi niwed i unigolyn, i'w gymuned neu i'w amgylchedd. Gallai hyn fod yn weithred gan rywun arall sy'n gwneud i chi deimlo'n ofnus, yn cael eich aflonyddu, neu'n ofidus. Mae hefyd yn cynnwys ofn trosedd neu bryder am ddiogelwch y cyhoedd, anhrefn cyhoeddus, neu niwsans cyhoeddus. Os ydych chi'n profi problemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu os oes gennych chi unrhyw bryderon amdano, neu faterion diogelwch cymunedol eraill, dylech chi gysylltu â'ch cyngor lleol neu roi gwybod am hyn i ni ar-lein. Mewn argyfwng, os ydych chi neu'ch eiddo mewn perygl, neu os yw trosedd yn digwydd, ffoniwch 999. Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond does dim angen ymateb brys arnoch chi? Gallwch wneud adroddiad ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk , anfon neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. | ||||
Atodiadau | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|
|