Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod ddiddordeb mewn ymuno â'n Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, lle mae ein gweithredwyr yn delio â galwadau brys a galwadau nad ydynt yn argyfwng gan y cyhoedd, ac yn anfon y galwadau hyn at ein swyddogion heddlu, byddwn yn agor y broses ymgeisio o 8 Ebrill 2025, a bydd yr hysbyseb yn aros ar agor tan 29 Ebrill 2025.
Mae cyfrifoldebau'r rôl yn cynnwys:
• Ymdrin â galwadau brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys gan y cyhoedd, felly mae'r gwaith yn werth chweil ac yn hanfodol er mwyn diogelu cymunedau De Cymru.
• Meithrin eich sgiliau a'ch galluoedd ac yn eich addysgu i ymateb i alwadau brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys yn y ffordd orau posibl a darparu gwasanaeth o safon i gymunedau De Cymru.
Mae hon yn swydd heriol lle mae angen unigolion gwydn sy'n gallu gweithio dan bwysau, blaenoriaethu llwythi gwaith a bod yn flaengar, gan reoli galwadau sensitif a all beri gofid. Rhaid i unigolion ddeall pwysigrwydd darparu gwasanaeth o ansawdd da a phrydlon i gwsmeriaid. Yn gyfnewid am hyn, bydd gennych swydd sy'n cynnig llawer o foddhad lle byddwch yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu cymunedau De Cymru.
Ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/gyrfaoedd/gyrfaoedd/ i gael syniad o'r gwaith a wneir gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus a'r broses recriwtio.
Bydd yn ofynnol i chi weithio shifftiau 24/7. Bydd yn ofynnol i chi weithio patrwm shifft, sy'n cynnwys gweithio cyfuniad o shifftiau wyth, naw a deg awr dros gyfnod 24/7 am chwe diwrnod a fydd yn cynnwys shifftiau bore, prynhawn a nos, cyn cael pedwar diwrnod gorffwys.
Dilynwch y ddolen isod i'n gwefan i wneud cais:
Heddlu 999/101 Triniwr galwadau Swyddog Risg a Datrys Digwyddiad Ebrill 2025 -
Os hoffech gofrestru eich diddordeb ar gyfer rolau/swyddi yn y dyfodol gyda Heddlu De Cymru, cofrestrwch ar ein cronfa ddata diddordeb a byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth atoch pan fydd hynny'n briodol.
https://policejobswales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-3/candidate/so/pm/8/pl/12/opp/5300-South-Wales-Police-Talent-Bank/en-GB?adhoc_referrer=jobboard_SWPlistens
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar PositiveAction@south-wales.police.uk
|