{SITE-NAME} Logo
Heddlu De Cymru
Message Type Icon

Fe ddywedoch chi...Fe wnaethon ni


Annwyl breswylydd,

Ar ôl i bryderon gael eu codi ynghylch cyflymder ceir yn teithio drwy Sain Ffagan, rydym wedi cynnal nifer o ymarferion cwmpasu cyflymder yn ddiweddar mewn gwahanol fannau ledled y pentref. Mae canlyniadau'r ymarferion hyn wedi cael eu bwydo'n ôl i Gyngor Cymuned Sain Ffagan. Bydd pob cerbyd goryrru a nodwyd gennym yn ystod yr ymarfer hwn yn derbyn llythyr rhybudd gan ein tîm 'GanBwyll' am eu dull o yrru.

Fel eich Tîm Plismona Bro, byddwn yn parhau i gynnal ymarferion cwmpasu cyflymder ad-hoc, yn patrolio’n rheolaidd drwy’r pentref ac yn cymryd camau cadarnhaol yn erbyn unrhyw gerbydau sy’n parcio’n beryglus neu’n blocio palmentydd. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â staff Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a byddwn yn parhau i gyfathrebu â nhw mewn perthynas â digwyddiadau lle gallai gorlif o geir effeithio ar faint o draffig sy'n parcio yn y pentref.

Os bydd unrhyw breswylwyr yn dyst i unrhyw droseddau gyrru ac yn gwneud fideo ohonynt, megis defnyddio ffôn symudol wrth y llyw, gallwch roi gwybod amdano ar-lein drwy ddilyn y ddolen hon… Ymgyrch SNAP

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i geisio mynd i'r afael â'r materion diogelwch ffyrdd sydd wedi'u dwyn i'n sylw.

Cofion cynnes

Tîm Plismona Bro Sain Ffagan (a Phentyrch).


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Jennifer Alcock
(South Wales Police, PCSO, Fairwater NPT)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials