|
||||
|
||||
|
||||
Annwyl drigolion, Rwy’n siŵr y byddech yn rhannu ein pryderon ynglŷn â gyrru’n ddiogel ledled Gŵyr. Mae'n dod i'r adeg honno o'r flwyddyn pan fydd ŵyn ac ebolion yn ymddangos ar y tir comin. Y TERFYN CYFLYMDER YW 40 ( Terfyn , nid targed ) Byddwch yn ofalus iawn wrth yrru heibio da byw ac anifeiliaid ifanc, bydd lleihau eich cyflymder yn caniatáu ichi weld yn well ac ymateb yn gyflym i beryglon posibl, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae gwelededd yn wael. Mae gan yr anifeiliaid hardd hyn hawl i grwydro’n rhydd ar y tiroedd comin, ac maent yn bleser i lawer o ymwelwyr/pobl leol eu gweld. Bydd gorfodi goryrru yn digwydd dros Benrhyn Gŵyr, gan Heddlu De Cymru. cofiwch, yn ôl y gyfraith, bod yn rhaid rhoi gwybod i'r heddlu am bob gwrthdrawiad sy'n cynnwys yr anifeiliaid hyn! Gyrrwch yn ddiogel a mwynhewch y rhan hardd hon o Gymru. Gyrrwch yn ddiogel a fwynhewch y rahn hardd yma o Gymru. Diolch / Diolch PCSO Mel Dix 56513 | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|
|