Siwmae bawb
Mae'n debyg eich bod yn ymwybodol, ers i'r neges olaf gael ei hanfon allan bod tanau glaswellt mawr pellach wedi eu tanio'n fwriadol ar rai o diroedd comin Gŵyr yma i enwi ond ychydig:-
Ryers lawr , Hardingdsdown ,Cefn Bryn , Pengwern , Fairwood .
Fel y nodwyd bod y rhain yn danau mawr iawn, a effeithiodd yn ddifrifol ar dir sy'n SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) yn dynodi cadwraeth ffurfiol.
Gynnau tanau yn fwriadol heb ganiatâd ffurfiol i wneud hynny yw ARSON sy'n drosedd. Yn ôl pob tebyg, mae'r tanau'n cael eu cychwyn yn fwriadol i hyrwyddo twf ar gyfer anifeiliaid sy'n pori.
Gweler y ddolen isod am wybodaeth mewn perthynas â glynu wrth y weithdrefn gywir ar gyfer rheoli tir drwy ddefnyddio tân.
Ymgyrch Dawns Glaw - Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Rydym wedi cysylltu ag asiantaethau partneriaeth mewn perthynas â rhagweld pryd mae'r tanau yn debygol o gael eu cychwyn, felly byddwn yn edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â'r mater hwn yn ogystal â nodi'r tramgwyddwyr, megis defnyddio dronau a phatrolau ychwanegol yn yr ardaloedd dynodedig sydd mewn perygl.
Mae gosod tanau anghyfreithlon ar y gwair yn drosedd ddifrifol a gallai eich gadael â Chofnod Troseddol. Os gwelwch unrhyw un yn cynnau tanau, ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu Taclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.
I gael gwybod mwy am Ymgyrch Dawns Glaw, y Cyd-Grŵp Tanau Bwriadol a Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru, ewch i wefan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol.
Diolch |