Os yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar eich ansawdd bywyd chi, neu'n gwneud ichi boeni am eich diogelwch chi neu ddiogelwch pobl eraill, mae yna bobl a all helpu. Gallwch gysylltu â'r heddlu, Adran Diogelwch Cymunedol eich cyngor lleol neu, os yw'n berthnasol, eich darparwr tai.
Mae gan yr asiantaethau partner hyn rôl i'w chwarae wrth leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed a delio â'r bobl sy'n gyfrifol.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddigwyddiad sy'n syrthio'n fyr o drosedd, lle mae ymddygiad unigolyn neu grŵp yn achosi neu'n debygol o achosi:
aflonyddwch, braw neu ofid i unrhyw berson nad yw o'r un aelwyd
teimlad o fygythiad personol i rywun arall
niwsans cyhoeddus neu effaith niweidiol ar yr amgylchedd
effaith niweidiol ar ansawdd bywyd unigolyn neu'r gymuned gyfan
Cyngor
Mae'n bwysig cadw cofnodion o ba ymddygiad sy'n digwydd a pha bryd. Peidiwch ag ofni dweud wrth un o'r asiantaethau partner amdano a gofyn am gymorth pan fydd arnoch ei angen.
I'ch helpu chi ac eraill:
riportiwch ymddygiad gwrthgymdeithasol
ei gofnodi
cadw llygad am bobl eraill a allai brofi ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i riportio ar eu rhan
Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae Adolygiad Achos yn grymuso dioddefwyr sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol dro ar ôl tro i ofyn am adolygiad o’r camau y mae asiantaethau partner wedi’u cymryd i ddatrys eu pryderon.
I fod yn gymwys, rhaid eich bod wedi profi a riportio:
- tri digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cyfnod o chwe mis
- pum digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cyfnod o chwe mis yn yr un lleoliad
- un digwyddiad o drosedd casineb
Mae angen i bob un o’r digwyddiadau fod wedi cael eu riportio o fewn un mis iddynt ddigwydd a rhaid i chi wneud cais am Adolygiad Achos o fewn chwe mis i’r digwyddiad diwethaf. Gall y dioddefwr fod yn fusnes, unigolyn neu’n grŵp cymunedol.
Sut i Ddefnyddio’r Adolygiad Achos
Gwnewch gais am Adolygiad Achos De Cymru.
Pan fyddwch chi'n gwneud cais, bydd angen i chi roi manylion llawn am bob digwyddiad.
Rhaid bod pob un o'r sefydliadau a ganlyn wedi rhoi gwybod am bob digwyddiad:
Heddlu De Cymru
Awdurdod lleol yn Ne Cymru
Cymdeithas Tai
Bwrdd Iechyd Lleol |