Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol niweidio cymunedau. Ond nid oes digon o bobl yn ei riportio.
Mae eich swyddogion lleol yn ymroddedig i fynd i'r afael â'r broblem. Mae pob adroddiad a wnewch yn ein helpu i gael atebion er mwyn sicrhau newid cadarnhaol yn eich cymuned. Mae pob adroddiad o bwys.
Beth yw Adrodd i Adfer?
Mae Adrodd i Adfer wedi'i greu ar eich cyfer chi, eich cymuned a'ch diogelwch. Bydd yn eich helpu i ddeall sut i roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, i bwy, a beth sy'n digwydd ar ôl i adroddiad gael ei wneud.
Mae pob adroddiad yn cyfrif.
Os ydych yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich cymuned leol, rydym am glywed gennych chi. Oherwydd, pan fyddwch yn gwneud adroddiad, mae'n cyfrannu tuag at ddata trosedd a all arwain at atebion cymunedol penodol.
|