|
||||
|
||||
|
||||
Neges Gwybodaeth Helo {FIRST_NAME} Sylwch ein bod wedi cael gwybod am ddigwyddiadau yn ardal Aberdâr, yn benodol Stryd Ynysllwyd a'r strydoedd cyfagos, lle mae Hysbysiadau Cosb Benodedig ffug wedi'u gosod ar gerbydau sydd wedi parcio yn y lleoliadau hyn. Mae wedi dod i’r amlwg bod person yn honni ar gam ei fod yn gweithio i’r Awdurdod Lleol ac yn rhoi tocynnau parcio ffug i gerbydau o dan y drosedd o barcio mewn parthau deiliaid trwydded yn unig. Fodd bynnag, nid yw'r cerbydau hyn wedi'u parcio mewn modd y mae trosedd yn cael ei gyflawni. Gofynnwn i chi barhau i fod yn wyliadwrus, ac os ydych yn amau eich bod wedi cael tocyn ffug, i gysylltu â'r Awdurdod Lleol i gadarnhau a yw hyn yn wir. Sylwch y bydd pob Hysbysiad Cosb Benodedig cyfreithlon a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn arddangos logo'r Cyngor. Gofynnwn yn gwrtais hefyd i chi barhau i barcio’n ystyriol ac o fewn y cyfyngiadau parcio sydd mewn lle. Hoffem ddiolch i chi am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad. A oes angen i chi siarad â'r heddlu ond nad oes angen ymateb brys arnoch? Gallwch wneud adroddiad ar-lein trwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk , anfon neges breifat atom trwy Live Chat, neu ffonio 101. Mewn argyfwng deialwch 999 bob amser. | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|
|