Shwmae,
Recriwtio Cwnstabliaid Gwirfoddol (Swyddogion Heddlu Gwirfoddol)
Fel Cwnstabl Gwirfoddol, gallwch chwarae rôl hanfodol wrth ein helpu i gyflawni'r blaenoriaethau plismona ar gyfer De Cymru. Mae bod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn brofiad gwerthfawr a phleserus, lle mae gwirfoddolwyr yn teimlo bod eu hangen a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u datblygu.
Swyddogion â gwarant yw Cwnstabliaid Gwirfoddol sy'n ymgymryd â gwaith gwerthfawr ac yn creu cysylltiad hanfodol rhwng yr heddlu arferol a'u cymunedau lleol. Fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch yn amddiffyn pobl De Cymru ac yn rhoi sicrwydd iddynt ochr yn ochr â swyddogion arferol. Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol hefyd yn cario'r un cyfarpar, yn gwisgo'r un lifrai, yn meddu ar yr un pwerau, ac yn ymateb i'r un galwadau â Swyddogion arferol yr Heddlu. Bydd disgwyl i chi ymrwymo i isafswm o 16 awr o wasanaeth y mis ac yn ystod eich dwy flynedd gyntaf o wasanaeth, bydd yn rhaid i chi gwblhau pob elfen o'ch hyfforddiant a chyflawni statws patrolio annibynnol.
Mae Heddlu De Cymru yn hysbysebu ar gyfer rolau Cwnstabl Gwirfoddol. Bydd yr broses gwneud cais yn agor ar 10 Chwefror 2025 a bydd yr hysbyseb yn aros ar agor tan 3 Mawrth 2025.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol:
Ymgyrch Cwnstabl Arbennig Heddlu De Cymru Chwefror 2025 –
Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd cael gweithlu amrywiol er mwyn helpu i ehangu ein gallu a'n capasiti i gyflwyno perfformiad o ansawdd uchel i'n cymunedau amrywiol. I gyrraedd uchelgais yr Heddlu o fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, mae ein Tîm Gweithredu Cadarnhaol ar gael i ateb unrhyw ymholiadau ac i roi cymorth i unrhyw ymgeisydd o gymunedau ethnig lleiafrifol.
Bydd digwyddiad ymgyfarwyddo yn cael ei gynnal ar 24 Chwefror gyda'r nos . Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn bresennol, cofrestrwch drwy ddefnyddio'r dolenni isod:
https://www.eventbrite.co.uk/e/special-constable-familiarisation-session-24th-february-2025-tickets-1217698532089?aff=oddtdtcreator
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, neu os hoffech drafod Gweithredu Cadarnhaol, anfonwch e-bost at PositiveAction@south-wales.police.uk
|