WythnosYmwybyddiaethCamdrinRhywiolTraisRhywiol | Weithiau, mae pethau'n dechrau gyda blodau, calonnau, cariad ac mae'r arwyddion rhybudd i'w gweld yn ddibwys, ond gallai bod yn ymwybodol ohonynt a gweithredu arnynt eich diogelu chi a diogelu rhywun pwysig i chi.
Ydych chi wedi clywed am Gyfraith Clare?
Os oes gennych bryderon am eich partner neu am ddiogelwch rhywun rydych chi'n poeni amdano, gallwch wneud y canlynol o dan gynllun Cyfraith Clare:
Gwneud cais am wybodaeth am bartner presennol neu gyn-bartner am eich bod yn poeni fod ganddo hanes o gam-drin a'i fod yn peri risg i chi.
Gofyn am wybodaeth am bartner presennol neu gyn-bartner ffrind neu berthynas am eich bod yn poeni y gallai fod yn wynebu risg.
Mae'n gwbl gyfrinachol, felly ni fydd neb yn gwybod eich bod wedi gwneud cais am wybodaeth.
Rydym am helpu i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, rydym yma os bydd ein hangen arnoch.
🔗 https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/campaigns/ymgyrchoedd/see-me/
|