{SITE-NAME} Logo
Heddlu De Cymru
Message Type Icon

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Swyddog Cadw yn y Ddalfa?


Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Swyddog Cadw yn y Ddalfa? Shwmae, Mae Swyddogion Cadw yn y Ddalfa yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau gofal a llesiant pobl a gedwir yn y ddalfa a'u heiddo, a'u cadw'n ddiogel yn ystod y broses honno. Maent yn helpu i sicrhau bod pedair dalfa weithredol Heddlu De Cymru yn gweithredu'n ddiogel: Bae Caerdydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe. Mae'r rôl hon ar gyfer Swyddog Cadw yn y Ddalfa i helpu Swyddog y Ddalfa i ddarparu amgylchedd diogel yn y ddalfa a sicrhau y caiff hawliau pobl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa eu diogelu. Bydd yn ofynnol i Swyddogion Cadw yn y Ddalfa weithio shifftiau 24/7, gan gynnwys ar Wyliau'r Banc ac ar Benwythnosau. Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd cael gweithlu amrywiol er mwyn helpu i ehangu ein gallu a'n capasiti i gyflwyno perfformiad o ansawdd uchel i'n cymunedau amrywiol ac i gyrraedd uchelgais yr Heddlu o fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Gall tîm Gweithredu Cadarnhaol Heddlu De Cymru gefnogi pob ymgeisydd o gymunedau ethnig lleiafrifol a rhoi cymorth drwy gydol y broses ac ateb unrhyw ymholiadau. Mae'r tîm ar gael ar yr e-bost isod. Er mwyn gwneud cais ar gyfer rôl Swyddog Cadw yn y Ddalfa, cliciwch yma: Swyddog Cadw Dalfeydd Heddlu De Cymru Chwefror 2025 – I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, neu os hoffech drafod ein tîm Gweithredu Cadarnhaol, anfonwch e-bost at PositiveAction@south-wales.police.uk Os hoffech gofrestru eich diddordeb ar gyfer rolau/swyddi yn y dyfodol gyda Heddlu De Cymru, cofrestrwch ar ein cronfa ddata diddordeb a byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth atoch pan fydd hynny'n briodol. South Wales Police Talent Bank - Police Jobs Wales


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Sarah Lewis
(South Wales Police, Administrator, South Wales)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials