{SITE-NAME} Logo
Heddlu De Cymru
Message Type Icon

Bwletin Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau – Tachwedd 2024


Shwmae {FIRST_NAME} Rhybuddion Sgam ‘Tom Jones’ ar Facebook Yn ddiweddar, bu swyddogion Age Cymru yn gweithio gyda pherson hŷn a gafodd eu targedi gan sgamiwr ar Facebook. Roedd y sgamiwr yn dynwared Tom Jones, y canwr enwog. Cysylltodd y sgamiwr â pherson hŷn gan ddynwared Tom Jones. Mi wnaeth y sgamiwr hyd yn oed rybuddio’r unigolyn bod yna sgamwyr ar Facebook yn dynwared Tom Jones, gan sefydlu perthynas agos gyda’r unigolyn. Mi wnaeth y sgamiwr gysylltu â’r unigolyn yn rheolaidd, gan ofyn iddyn nhw brynu cardiau rhodd iddyn nhw a rhannu codau’r cardiau. Yn anffodus, datblygodd y sgam i fod yn sgam ramant, a gofynnodd y sgamiwr i’r unigolyn i’w briodi. Erbyn hyn, darganfyddodd merch yr unigolyn beth oedd wedi digwydd. Gwnaeth y ferch yn siŵr bod ei mham yn cael cymorth ar unwaith gan yr heddlu ac Age Cymru ac mae bellach yn derbyn cefnogaeth. Rydym yn annog ein partneriaid i gadw llygad am sgamiau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac i fod yn wyliadwrus o sgamiau sy'n datblygu dros amser wrth i'r troseddwr greu perthynas gyda'r dioddefwr. Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef twyll, cysylltwch ag Action Fraud ar-lein neu ar 0300 123 20 40. Gellir cysylltu â thîm cynghori Age Cymru ar 0300 303 44 98 neu drwy e-bostio advice@agecymru.org.uk Digwyddiad Ymwybyddiaeth Sgamiau Pensiwn (Port Talbot, 5 Rhagfyr) Beth sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â sgamiau pensiwn a sgamiau yn gyffredinol? Sut allwn ni helpu pobl a defnyddwyr gwasanaethau i ddiogelu eu hun rhag heriau ariannol a sgamiau? Pa gefnogaeth sydd ar gael? Bydd cyfle i chi gael mwy o wybodaeth yn ein digwyddiad Ymwybyddiaeth Sgamiau Pensiwn, a drefnir gan ein swyddogaeth Diogelu Defnyddwyr. Bydd siaradwyr ar draws asiantaethau'r llywodraeth - Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn cyflwyno eitemau ar yr agenda a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth am sgamiau, gan gynnwys sgamiau pensiwn ac ymateb y diwydiant. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim a bydd yn cael ei gynnal yng Ngwesty Traeth Aberafan ym Mhort Talbot ar ddydd Iau 5 Rhagfyr. I archebu eich lle, e-bostiwch consumer.protection@maps.org.uk Wythnos Genedlaethol Diogelu (11-15 Tachwedd) Ymgyrch genedlaethol flynyddol yw’r Wythnos Diogelu sy'n canolbwyntio ar ystod eang o faterion diogelu sy'n effeithio ar ein cymunedau yng Nghymru. Mae pob un o'r Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn cydlynu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau addysgol sy’n codi ymwybyddiaeth, wedi'u hanelu at y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol. Mae pob rhanbarth yn penderfynu ar thema wahanol, gan roi'r hyblygrwydd i'r Bwrdd Diogelu a'i bartneriaid ac asiantaethau yn y rhanbarth I drefnu digwyddiadau a gweithgareddau ar faterion sy’n ymwneud â diogelu sy'n berthnasol i'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, eu defnyddwyr gwasanaeth a'u profiadau yn ystod pandemig Covid-19. Gallwch ddarganfod mwy am y thema ar gyfer pob Bwrdd Diogelu, ynghyd â rhestr o'r digwyddiadau a'r gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal yn y gwahanol ranbarthau. #DiogeluCymru Adnoddau Gwasanaeth rhybuddion sgam Masnachwyr Dibynadwy Which? Mae Masnachwyr Dibynadwy Which? yn rhedeg gwasanaeth rhybudd sgam am ddim, sy'n anfon gwybodaeth am y sgamiau diweddaraf yn syth i'ch mewnflwch. Gallwch gofrestru ar gyfer rhybuddion am sgamiau yma - Scam Alerts service – sign up, it's free. Am enghraifft o'r rhybudd diweddaraf, gweler: Scamwatch: 'I lost over £7k in an elaborate Facebook Marketplace scam' - Which? News Dyma hanes unigolyn a gollodd dros £7,000 i sgam ar Facebook Marketplace - cyn darganfod na fyddai ei banc yn ei had-dalu am yr arian a gollwyd. Ar 7 Hydref 2024, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i fanciau a chwmnïau talu yn y DU addalu dioddefwyr twyll Taliad ‘Push’ Awdurdodedig hyd at £85,000. Banks must refund fraud in five days but losses capped at £85,000 - BBC News Ffoniwch 159 i siarad â’ch banc Mae ffonio 159 i siarad â’ch banc yr un peth a ffonio 101 i siarad â’r heddlu neu 111 i'r siarad â’r GIG. Bydd y rhif yn eich cysylltu â’ch banc yn ddiogel, bob tro. Felly, os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn ceisio eich twyllo i drosglwyddo arian neu fanylion personol - stopiwch, rhowch y ffôn i lawr a ffoniwch 159 i siarad yn uniongyrchol â'ch banc. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am 159 a dysgu pa fanciau yn y DU sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, ewch i: https://stopscamsuk.org.uk/159


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Sarah Lewis
(South Wales Police, Administrator, South Wales)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials