|
||||
|
||||
|
||||
Bydd ein hymgyrch OP BANG yn digwydd tua diwedd mis Hydref a dechrau mis Tachwedd. Mae’n gyfle i atgoffa pawb nad yw Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn hwyl i bawb. Mae posteri a phecynnau gweithgareddau plant ar gael yma: Ddim yn Hwyl i Bawb -#OpBang|Heddlu De Cymru (de-cymru.police.uk) Bydd ein swyddogion allan yn ymgysylltu â'n cymunedau ac yn cynnal a mynychu gwahanol ddigwyddiadau - cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am fanylion Angen cysylltu? Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk Adrodd ar-lein https://www.south-wales.police.uk/ro/report Ffonio 101 Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser. Gwnewch yn siŵr eich bod yn adrodd i'r asiantaeth gywir: Dylid rhoi gwybod i ni am ymddygiad gwrthgymdeithasol, defnydd anghyfreithlon o dân gwyllt a difrod troseddol. Yn gyffredinol, nid yw cymdogion swnllyd, pryderon am les anifeiliaid a gwerthu ffyn gwreichion yn faterion i’r heddlu, ac mae sefydliadau eraill mewn gwell sefyllfa i helpu gyda’r materion hyn. | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|
|