{SITE-NAME} Logo
Heddlu De Cymru
Message Type Icon

Ymgyrch Op Bang


Shwmae {FIRST_NAME} Cynhelir ein Hymgyrch Bang tuag at ddiwedd mis Hydref a dechrau mis Tachwedd. Mae'n gyfle i atgoffa pawb nad yw Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn hwyl i bawb. Mae posteri a phecynnau gweithgareddau i blant ar gael yma: Nid yw'n Hwyl i Bawb – #YmgyrchBang | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk) Bydd ein swyddogion ar grwydr yn ymgysylltu â'n cymunedau ac yn cynnal a mynd i ddigwyddiadau gwahanol - cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ragor o fanylion. Angen cysylltu â ni? 🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/ 💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio 📞 101 Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i'r asiantaeth gywir: ✔️ Dylid rhoi gwybod i ni am ymddygiad gwrthgymdeithasol, defnydd anghyfreithlon o dân gwyllt, a difrod troseddol. ❌ Nid yw cymdogion swnllyd, pryderon am les anifeiliaid, a gwerthu ffyn gwreichion fel arfer yn faterion i'r heddlu, ac mae sefydliadau eraill mewn sefyllfa well er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae rhagor o wybodaeth am bwy y dylech gysylltu ar gael yma: Yr heddlu neu ei bartneriaid: â phwy y dylwn i gysylltu? | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Sarah Lewis
(South Wales Police, Administrator, South Wales)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials